Inspiro Learning
Rydym yn ystyried dysgu a phrentisiaethau yn fuddsoddiadau hynod werthfawr o ran datblygu gweithlu. Mae ein hanes cyfoethog o ragoriaeth mewn gwasanaeth a’n modelau prentisiaethau a darpariaeth i oedolion yn cynnig datrysiadau arloesol ac unigryw sy’n gosod ein cleientiaid a’u cyflogeion wrth galon y ffordd y dyluniwn ein rhaglenni.
Ym mhob cwr o’r wlad, mae ein timau yn gweithio ar draws ystod o sectorau, o letygarwch, manwerthu a sgiliau busnes i hamdden actif. Er bod pob rhaglen yn seiliedig ar fodel cyflawni cadarn sydd wedi’i brofi, mae pob un wedi’i theilwra i uchelgeisiau, gofynion a strategaeth ein partneriaid – mae’r cwbl yn dechrau gyda’ch anghenion chi. Mae ein tîm gweithgar o gynghorwyr sydd wedi arbenigo mewn recriwtio ar gyfer prentisiaethau yn ymroi i ddod o hyd i’r prentis delfrydol ar gyfer pob swydd wag.
Beth sydd ar gael
Cefnogaeth ar gyfer unigolion
Cefnogaeth ar gyfer busnesau
Prentisiaethau
Darparwr Prentisiaethau Cymeradwy
Cefnogaeth ar gyfer unigolion
Cefnogaeth ar gyfer busnesau





