Dysg hyblyg, posibiliadau diddiwedd
Mae North East Wales Skills Academy yn cynnig tiwtora wedi’i deilwra, opsiynau dysgu digidol, a chyrsiau hyblyg a gynhelir ar y safle yn y ganolfan hyfforddi o’r radd flaenaf er mwyn sicrhau bod yr addysg yn addasu i anghenion unigol a phrysurdeb bywyd. P’un a ydych yn awyddus i newid gyrfa, uwchsgilio i ddatblygu eich gyrfa, neu’n ceisio ehangu eich sgiliau, mae North Wales Skills Academy yma i’ch arwain bob cam o’r ffordd.
Cewch gefnogaeth a hyfforddiant gan unigolion proffesiynol y diwydiant er mwyn helpu i uwchsgilio ac ennill cymwysterau a thrwyddedau, yn cynnwys Wagen Fforch Godi, Egwyddorion Warws a Storio, HGV, C1 a PCV; gyda chymorth pellach i’ch rhoi mewn cysylltiad â chyflogwyr lleol sy’n prysur chwilio am unigolion.
Darparwyd ar y cyd â Gatewen Training Services
Mae Gateway Training Services yn gwmni y gellir dibynnu arno i ddarparu cyrsiau hyfforddi masnachol o ansawdd. Rydym mewn sefyllfa ddelfrydol i fodloni amrywiol anghenion y gwahanol ddiwydiannau. Mae ein cwricwlwm cynhwysfawr yn cwmpasu ystod eang o sectorau. Yn eu plith mae trafnidiaeth a logisteg, peiriannau ac adeiladu, warysau, rheoli cyfleusterau, a gweithgynhyrchu.
Efallai eich bod yn unigolyn sy’n awyddus i ddechrau ar lwybr gyrfa newydd, neu’n sefydliad sy’n ceisio uwchsgilio eich gweithlu. Rydym yn darparu gwasanaeth hyblyg ac ymatebol iawn sy’n cyd-redeg yn ddidrafferth â’ch gofynion hyfforddiant penodol, naill ai ar eich. safleoedd neu, fel arall, yn un o’n canolfannau hyfforddi.

Beth sydd ar gael
Cefnogaeth ar gyfer Unigolion
Cefnogaeth ar gyfer Busnesau
Cymorth i ddod o hyd i swydd
Ysgrifennu CV, ceisiadau, sgiliau cyfweliad, mentora etc.
Cymorth i ddod o hyd i gyfleoedd i wirfoddoli / profiad gwaith
Hyfforddiant a chyrsiau byr
Dysgu Oedolion yn y Gymuned
Cymorth gydag Iechyd Meddwl a Llesiant
Cefnogaeth ar gyfer Unigolion
Cefnogaeth ar gyfer Busnesau





