Cael trafferth recriwtio gweithwyr medrus?
Ydych chi wedi ystyried cyflogi rhywun sy’n gadael carchar? Rydym yn gofyn y cwestiwn … pam lai?
Yn ôl data gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder, mae gan 27% o oedolion o oedran gweithio yn y DU euogfarn droseddol. Mae hynny’n rhan sylweddol o’r boblogaeth ac yn gronfa dalent sydd heb ei defnyddio i raddau helaeth. Ac nid yw’r gronfa dalent hon yn cael ei hanwybyddu gan fusnesau.
Roedd llawer yn gweithio’n llwyddiannus cyn carchar. Mae llawer wedi ennill medrau a chymwysterau newydd yn ystod eu harhosiad yn y carchar. Gall eich busnes fanteisio ar dalentau amrywiol o bobl ag ystod eang o gefndiroedd, profiadau bywyd a sgiliau sy’n addas ar gyfer bron unrhyw sector.
Bydd y digwyddiad hyn yn rhoi persbectif 360 gradd i chi ar gyflogi pobl sy’n gadael carchar:
- Clywed gan amrywiaeth o arbenigwyr sy’n gweithio yn y system carchardai.
- Dysgu gan gyflogwyr sydd â phrofiad o gyflogi’r rhai sy’n gadael carchar.
- Cael mewnwelediad i safbwynt y rhai sy’n gadael carchar.
- Cael cipolwg ar y sgiliau a’r hyfforddiant sydd ar gael mewn carchardai.
- Trafod y rhwystrau i gyflogi rhywun sy’n gadael carchar.
- Darganfod pa gefnogaeth sydd ar gael i gyflogwyr a’r rhai sy’n gadael carchar unwaith maent mewn cyflogaeth.
Yn ogystal, er mwyn darparu adnodd gwerthfawr i chi, bydd Llywodraeth Cymru yn lansio eu Pecyn Cymorth newydd i gefnogi cyflogwyr ar eu taith i recriwtio pobl sy’n gadael carchar.