DIGWYDDIADAU

Mae Theatr Clwyd yn dechrau recriwtio ar gyfer swyddi cyflogedig a gwirfoddol wrth iddi baratoi i agor ym mis Mehefin yn dilyn ei hailddatblygiad mawr.

Mae amrywiaeth o swyddogaethau ar gael – o Weithwyr Cadw Tŷ i Dechnegwyr Goleuo, arbenigwyr TG i dywyswyr gwirfoddol. Mae’r digwyddiad yn cael ei gynnal ar Sgwâr Daniel Owen yr Wyddgrug ar ddydd Mercher 12 Mawrth rhwng 10am a 2pm lle gallwch ddod i wybod am y swyddogaethau a chael mwy o fanylion.

Dywedodd Laura Temple, Pennaeth Pobl Theatr Clwyd:

“Mae gennym ni swyddi a swyddogaethau gwirfoddol cyffrous i ddod wrth i ni baratoi i agor y theatr. Os ydych chi’n chwilio am her newydd, neu eisiau rhoi rhywbeth yn ôl i’ch cymuned, mae’r digwyddiad yma ar eich cyfer chi.”

Mae’r digwyddiad yn cael ei gynnal mewn partneriaeth â Chymunedau am Waith a Mwy Cyngor Sir y Fflint.

Bydd pob rôl yn cael ei hysbysebu yn Swyddi | Theatr Clwyd


Dyddiad: Dydd Mercher 12 Mawrth
Amser: 10am – 2pm
Lleoliad: Sgwâr Daniel Owen, Canol Tref yr Wyddgrug

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch cfwtriage@flintshire.gov.uk