Cyfle i ddod i weld pa gyfleoedd gwaith sydd gan gyflogwyr. Mae llawer o sectorau yn cael eu cwmpasu, o Ofal i Adeiladu, y GIG, Gweinyddol, a llawer mwy.
Gall unrhyw un ddod i’n Ffair Swyddi ni – i chwilio am swydd neu os ydych ond eisiau gweld beth sydd ar gael. Ein ffair swyddi ni yw’r lle perffaith i ddechrau – Does dim angen apwyntiad, maen nhw am ddim.
10:00 -16:00
Dewch draw ar unrhyw adeg.
Paratoi at y Ffair Swyddi
Er mwyn paratoi at y Ffair Swyddi, bydd y sesiwn Clwb Swyddi yn Llyfrgell y Rhyl (ddydd Iau 15 Chwefror, o 10am tan 2pm), wedi’i theilwra i helpu’r rhai sydd yno baratoi at y digwyddiad.
Bydd cyfle i rai sy’n chwilio am swydd:
- orffen ac argraffu eu CV a’u llythyr eglurhaol
- meddwl beth maent eisiau ei gyflawni yn y ffair
- cael cyngor wedi’i deilwra i wneud y mwyaf o’r digwyddiad