Hyfforddiant Cynaliadwyedd ar gyfer Cwmnïau Bwyd a Diod
Mae’r cwrs hyfforddiant hwn yn llwyddo i roi’r sgiliau a’r wybodaeth i berchnogion a rheolwyr cwmnïau bwyd a diod er mwyn eu galluogi i ddatblygu cynlluniau ymarferol sy’n ymateb i newid yn yr hinsawdd a’r argyfwng byd natur, yn ogystal â bodloni anghenion y cwsmer.
O ganlyniad i ddeddfwriaeth newydd, ynghyd â’r galw sylweddol yn y farchnad, mae prynwyr a defnyddwyr yn cadw llygad fwyfwy am gynhyrchion a brandiau sy’n dangos perfformiad amgylcheddol a chymdeithasol cadarnhaol. Bydd y rhai sy’n mynychu’r cwrs hwn yn cael y wybodaeth a’r sgiliau i roi newidiadau dymunol ar waith o fewn eu busnes.
Cynnwys y Cwrs
- Sut i addasu i gostau ynni cynyddol a lleihau allyriadau carbon
- Deall y prif gysyniadau, gan gynnwys Sero Net, yr Economi Gylchol, Gwerth Cymdeithasol yn ogystal â Deddf Cenedlaethau’r Dyfodol a Fframwaith Nodau Datblygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig.
- Sut i alinio ag amcanion cynaliadwyedd prynwyr masnach, gan gynnwys manwerthwyr a gwasanaethau bwyd
- Sut i gyfleu arfer da mewn modd sy’n gwrthsefyll archwiliad manwl
- Ymchwilio i wahanol labeli a chynlluniau ardystiedig er mwyn nodi pa rai fyddai’n addas ar gyfer eich busnes
Fformat
Cynhelir y cwrs ar-lein rhwng 9.30 – 12.30 fel cyfres o 5 sesiwn wythnosol dan arweiniad tiwtor. Bydd y garfan nesaf yn dechrau ddydd Mercher 8 Ionawr 2025.
Caiff yr hyfforddiant ei arwain gan hyfforddwyr blaenllaw Cymru ar gynaliadwyedd a diwydiant; Ecostudio a Cynnal Cymru.
Yn ystod y cwrs, byddwch yn cael mynediad dethol i:
- Offer ryngweithiol i asesu a meincnodi eich perfformiad cynaliadwyedd
- Dulliau profedig i ddatblygu cynllun cynaliadwyedd eich hun ar gyfer eich busnes
- Arweiniad arbenigol a chefnogaeth benodedig un i un
I fanteisio ar y cwrs hyfforddiant AM DDIM hwn, mae gofyn i’r rhai sy’n cymryd rhan fynychu’r 5 sesiwn a chwblhau’r tasgau gofynnol.
Dyddiadau’r Cwrs: 8, 15, 22, 29 Ionawr a 5 Chwefror 2025.
Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth am y gweithdai: skills-wales@mentera.cymru