Meithrin y sgiliau, hyder a phrofiad wrth fynd i’r afael â gwaith DIY cyffredinol a phrosiectau gwelliannau yn y cartref i gynnwys gallu efnyddio offer pŵer, gweithio gyda gwahanol ddefnyddiau a chreu prosiect ymarferol i fynd adref gyda chi.
- Cyngor ynglŷn â sut i ddefnyddio offer yn ddiogel, gydag elfen ymarferol ar ddod yn
gyfarwydd â’r offer, gan gynnwys morthwylion, sgriwdreifers a driliau heb gordyn, a dysgu
mesur, marcio a chyfrifo’n gywir i gael canlyniadau manwl gywir. - Hanfodion drilio, gan ymarfer defnyddio driliau trydan a phlygiau pared i osod pethau ar
waliau; gweithio gyda phren, gan gynnwys torri a gosod prosiect syml gan ddefnyddio llif
law a sgriwdreifers heb gordyn. - Sgiliau defnyddio offer trydan uwch, gan gynnwys dysgu defnyddio driliau taro a
pheiriannau sandio; gweithio gyda gwahanol ddefnyddiau, gan gynnwys torri coed, plastig a
metel gydag offer llaw a thrydan. - Technegau gorffen yn defnyddio peiriannau sandio trydan ac edrych ar staenio a phaentio;
creu prosiect ymarferol gan gyfuno eich sgiliau newydd gydag offer llaw a thrydan
Mae’r cwrs ar agor i breswylwyr Conwy sy’n 19 oed a hŷn yn unig
Mae’r prosiect hwn wedi’i ariannu gan Lywodraeth y Du drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU