
Dyma’ch cyfle i gymysgu â chyflogwyr/ceiswyr gwaith i ddod o hyd i’r perthynas perffaith.
Yn y digwyddiad gwych hwn, bydd yr holl gyflogwyr yn RECRIWTIO neu yn trafod cyfleoedd gwych, felly mae siawns y gallech CHI gael swydd erbyn diwedd y dydd! Dewch draw a chyflwynwch eich hun! Edrychwn ymlaen at eich croesawu i’r ffair yrfaoedd wahanol iawn hon.
CEISWYR SWYDD – Paratowch os gwelwch yn dda a byddwch yn hyderus – gofynnir i chi roi cyflwyniad byr yn dweud pwy ‘da chi(ond does dim aneng i chi). Dewch â’ch portffolio neu CV diweddar gyda chi hefyd os oes gennych un, ond byddwch yn ymwybodol bod cymorth ar gael ar y diwrnod i’ch cynghori ar sut i lunio CV.
CYFLOGWYR – Mynychwch y digwyddiad hwn os ydych yn recriwtio ar hyn o bryd neu ar fin recriwtio, a byddwch yn barod ac yn agored i siarad â cheiswyr gwaith. Bydd gofyn i chi hefyd ddweud gair amdanoch chi’ch hun a’ch sefydliad. Nodwch os gwelwch yn dda, ni fyddwch yn cael gofod arddangos mawr; bydd y ffocws yn fwy ar yr hyn sydd gennych i’w ddweud a’r elfen rwydweithio. Mae croeso i chi ddod â pop-up ond efallai na fyddwch yn cael bwrdd.
Bydd y Sparc X yma, ein 3ydd digwyddiad o’i fath, yn ffocysu ar cyfleoedd yn y sector adeiladu; gall alw am arbenigaeth mewn rolau amrywiol iawn ar amryw o wahanol lefelau.
Noddir yn garedig gan Cyd Innovation Cyf and Anglesey Associates