Addasadwy | Hyblyg
Allwch chi ddangos enghreifftiau o sut rydych chi wedi addasu i newid?
Gallech gyfeirio at sut y symudodd cyfnod o’ch addysg neu swydd ar-lein neu’n hybrid a sut roedd yn rhaid i chi addasu a datblygu eich sgiliau i ffynnu yn y ffordd newydd o weithio.
Yr Iaith Gymraeg
Mae gallu cyfathrebu’n effeithiol ac yn hyderus mewn Cymraeg bob dydd yn cael ei werthfawrogi’n fawr mewn gwahanol sectorau.
Nid yw pob swydd yn gofyn am sgiliau iaith Gymraeg lefel uchel, ac yn aml mae gan gyflogwyr fwy o ddiddordeb yn eich gallu i ymgysylltu â chwsmeriaid, cleientiaid neu gydweithwyr sy’n siarad Cymraeg ar lefel ymarferol.
Trefnus
Mae gwybod sut i flaenoriaethu gwaith, rheoli amser a chael hunanddisgyblaeth yn arddangos eich gallu i fod yn drefnus.
Meddyliwch am adegau pan wnaeth eich sgiliau trefnu wella eich cynhyrchiant a’ch helpu i fodloni eich targedau.
Gallai hyn fod drwy blaenoriaethu tasgau neu reoli eich amser i ganiatáu amser ar gyfer gweithgareddau eraill y tu hwnt i addysg neu waith.
Creadigrwydd
Gellir mynegi creadigrwydd mewn sawl ffurf.
Waeth os ydych wedi astudio pwnc creadigol fel celf, ysgrifennu creadigol, neu ddylunio graffeg, neu efallai bod gennych chi ddiddordeb mewn ffotograffiaeth, mae pob un mor berthnasol â’r llall.
Gellir dangos creadigrwydd hefyd trwy godio a datblygu meddalwedd, neu hyd yn oed datrys problemau ac entrepreneuriaeth gan fod angen meddwl arloesol ar bob un ohonynt.
Cyfathrebu
Defnyddiwch eich profiad o brosiectau ysgol/coleg i amlygu eich sgiliau cyfathrebu.
P’un a oes gennych brofiad o siarad cyhoeddus/cyflwyno, cyfathrebu ysgrifenedig neu hyd yn oed fel gwrandäwr gweithredol, bydd
digon o weithiau y byddwch wedi defnyddio’r sgiliau hyn.
Digidol | TG
Mae sgiliau digidol sylfaenol yn ofyniad ym mhob gweithle heddiw. Eglurwch eich profiad gyda meddalwedd fel Microsoft Office, Teams/Zoom neu Canva i ddangos eich sgiliau digidol a TG.
Os oes gennych sgiliau digidol eraill fel golygu fideo a lluniau, codio, neu AI, mae’n werth nodi’r sgiliau yma hefyd gan eu bod yn uchel eu galw.
Gwaith caled
Mae gwaith caled yn ymwneud â gwneud eich gorau glas yn gyson ac ymrwymo i fodloni eich targedau.
Meddyliwch am amser lle rydych chi wedi dangos brwdfrydedd ac ymrwymiad fel hyn. Efallai eich bod wedi cymryd yr amser i gael profiad gwaith gwirfoddol neu gyflogedig i baratoi ar gyfer eich dyfodol.
Arwain a Rheoli
Os ydych chi wedi cymryd rolau arwain mewn clybiau ysgol, sefydliadau, neu grwpiau cymunedol, mae’r rhain yn enghreifftiau gwych i’w defnyddio wrth wneud cais am swyddi.
Mae’n dangos profiad gyda datrys problemau,
datrys gwrthdaro a chreu rhwydwaith cefnogol ymhlith cyfoedion.
Gwydn
Gall gwaith fod yn heriol, a bydd eich rheolwr neu oruchwyliwr eisiau gwybod sut rydych chi wedi ymdopi ag anawsterau.
Meddyliwch am amser pan wnaethoch chi wella a dod at eich hun ar ôl sefyllfa/adeg anodd.
A oes rhywbeth na wnaethoch chi lwyddo ynddo ar eich ymgais gyntaf, ond y gwnaethoch weithio’n galed i oresgyn yr heriau hyn i lwyddo?
Datrys Problemau | Meddwl yn Feirniadol
Eglurwch sut y byddech chi’n nodi problem a sut y byddech chi’n ei datrys. Meddyliwch am ffordd wahanol o fynd i’r afael ag ef a phwy arall y mae angen i chi ei gynnwys.
Os ydych chi’n meddwl am rywbeth yr ydych chi wedi gorfod ei ddatrys a oedd yn anodd, yna mae’n dangos nad ydych chi’n ofni her.
Gwaith Tîm
Yn y gweithle, bydd gofyn i chi weithio fel tîm yn aml, neu ar draws sawl tîm i gyflawni nod cyffredin, gan wneud y mwyaf o sgiliau pawb.
Os yw eich profiad gwaith yn gyfyngedig, ystyriwch adegau lle rydych chi wedi chwarae chwaraeon tîm neu wedi bod yn rhan o glwb neu grŵp