Gweithgynhyrchu Uwch
Mae’r sector gweithgynhyrchu uwch yng Ngogledd Cymru yn ddiwydiant llewyrchus a blaengar sy’n cynnig amrywiaeth eang o gyfleoedd gyrfa i’r rhai sy’n frwd dros arloesi a thechnoleg. Mae’r sector hwn yn cwmpasu nifer o wahanol feysydd, yn cynnwys awyrofod, modurol, electroneg, a pheirianneg fanwl, ynghyd â ffocws cynyddol ar dechnoleg ynni adnewyddadwy a phrosesau gweithgynhyrchu cynaliadwy.
Yn sgil buddsoddiad parhaus ac ymrwymiad cryf i ddatblygu technoleg, mae gweithgynhyrchu uwch yng Ngogledd Cymru yn ddewis delfrydol i unigolion sy’n ymddiddori mewn atebion blaengar, datrys problemau cymhleth a gwaith dylanwadol. Mae sawl llwybr yn arwain at y sector, yn cynnwys cyrsiau coleg a phrifysgol, prentisiaethau a phrentisiaethau gradd. Mae’r llwybrau hyn yn arwain at rolau mewn meysydd fel roboteg, rheoli ansawdd, rheoli cynhyrchiad a pheirianneg.
Dewch o hyd i ragor o ystadegau a mewnwelediadau am y Sector Gweithgynhyrchu Uwch.
TWF
2026
+1.8%
PROFFIL Y GWEITHLU
16-24 oed
8.4%
25-49 oed
52.3%
50+
38.3%
Galwedigaethau y mae galw amdanynt
Peirianneg Uwch
£38,600
Peirianwyr Cynnal a Chadw
£42,300
Galwedigaethau Proffesiynol
£36,500
Galwedigaethau â Chrefft Fedrus
£33,300
Ymchwiliwch i’r sector Gweithgynhyrchu Uwch
Swyddi gweithgynhyrchu uwch
Dewch o hyd i gyfleoedd gyrfa cyffrous sydd wedi’u teilwra i’ch sgiliau a’ch diddordebau.
Dechrau busnes
Trowch eich syniadau yn fusnes gydag adnoddau a chefnogaeth arbenigol.