Polisi Preifatrwydd
Diweddarwyd diwethaf ar 26-Tach-2024
Dyddiad Dod i Rym 26-Tach-2024
Mae’r Polisi Preifatrwydd hwn yn disgrifio polisïau Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol Cymru, Adeiladau’r Llywodraeth, Sarn Mynach, Cyffordd Llandudno, Conwy, LL31 9RZ, Teyrnas Unedig Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon, e-bost: reesbrown@uchelgaisgogledd.cymru, ffôn: 03000625034 ac yn ymwneud â chasglu, defnyddio a datgelu’r holl wybodaeth yr ydym yn ei chasglu pan ydych yn defnyddio ein gwefan ( https://portal-gogledd.cymru/ ) (y “Gwasanaeth”). Drwy geisio neu ddefnyddio’r Gwasanaeth, rydych yn caniatáu i ni gasglu, defnyddio a datgelu’ch gwybodaeth yn unol â’r Polisi Preifatrwydd hwn. Os nad ydych chi’n caniatáu i hynny, yna peidiwch â cheisio na defnyddio’r Gwasanaeth.
Mae’n bosibl y byddwn yn addasu’r Polisi Preifatrwydd hwn ar unrhyw adeg heb roi unrhyw rybudd i chi ymlaen llaw a byddwn yn rhannu’r Polisi Preifatrwydd ar y Gwasanaeth. Bydd y Polisi arfaethedig yn dod i rym 180 diwrnod ar ôl i’r Polisi newydd gael ei rannu ar y Gwasanaeth. Drwy barhau i geisio neu ddefnyddio’r Gwasanaeth ar ôl y cyfnod hwn, rydych chi’n derbyn amodau’r Polisi Preifatrwydd newydd. Felly, rydym yn eich argymell i gadw llygad ar y dudalen hon o bryd i’w gilydd.
-
Dyma’r Wybodaeth a Gasglwn:
Byddwn yn casglu ac yn prosesu’r wybodaeth bersonol ganlynol yn eich cylch chi:
- Enw
- Cyfeiriad e-bost
- Rhif ffôn
- Cyfeiriad gwaith
- Gwybodaeth ynghylch y cwmni
-
Sut Ydym Yn Defnyddio Eich Gwybodaeth:
Byddwn yn defnyddio’r wybodaeth a gasglwn yn eich cylch chi at y dibenion canlynol:
- Marchnata/Hyrwyddo
- Tystebau
- Casglu adborth gan gwsmeriaid
- Gwybodaeth weinyddol
Os ydym am ddefnyddio eich gwybodaeth at unrhyw ddiben arall, byddwn yn gofyn am eich caniatâd a byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth ar ôl i chi ganiatáu hynny, a dim ond at y diben(ion) sydd wedi’u caniatáu, oni bai ei bod hi’n ofynnol i ni wneud hynny drwy’r gyfraith.
-
Sut Ydym Yn Rhannu Eich Gwybodaeth:
Ni fyddwn yn trosglwyddo eich gwybodaeth bersonol i unrhyw drydydd parti heb geisio caniatâd gennych chi, oni bai dan amgylchiadau prin, fel y’u disgrifir isod:
- Gwasanaeth hysbysebu
- Asiantaethau marchnata
- Dadansoddeg
Rydym yn ei gwneud hi’n ofynnol i drydydd parti o’r fath ddefnyddio’r wybodaeth bersonol yr ydym yn ei throsglwyddo iddynt ddim ond at y diben y trosglwyddwyd y wybodaeth ac i beidio â’i chadw am ddim hirach nag sydd ei hangen ar gyfer cyflawni’r diben penodol hwnnw.
Mae’n bosibl y byddwn hefyd yn datgelu’ch gwybodaeth bersonol oherwydd y canlynol: (1) i gydymffurfio â chyfraith, rheoliad, gorchymyn llys neu broses gyfreithiol arall berthnasol; (2) i orfodi’r hyn yr ydych wedi’i gytuno gyda ni, yn cynnwys y Polisi Preifatrwydd hwn; neu (3) i ymateb i honiadau bod eich defnydd o’r Gwasanaeth yn mynd yn groes i unrhyw hawliau trydydd parti. Os caiff y Gwasanaeth neu ein cwmni ei uno â chwmni arall, neu ei gaffael gan gwmni arall, bydd eich gwybodaeth ymhlith y caffaeliadau a fydd yn cael eu trosglwyddo i’r perchennog newydd.
-
Cadw Eich Gwybodaeth:
Byddwn yn cadw eich gwybodaeth bersonol am gyfnod Amhenodol neu gyn hired ag y mae ei hangen arnom ni i gyflawni’r dibenion y caglwyd y wybodaeth ar eu cyfer fel y nodir yn y Polisi Preifatrwydd hwn. Mae’n bosibl y bydd angen i ni gadw gwybodaeth benodol am gyfnodau hirach, fel cadw cofnodion / adrodd yn unol â chyfraith berthnasol neu am unrhyw reswm cyfreithiol arall, fel gorfodi hawliau cyfreithiol, atal twyll, etc. Mae’n bosibl y bydd gwybodaeth ddienw sydd ar ôl a gwybodaeth gyfanredol, nad oes modd eich adnabod chi drwy’r naill na’r llall (yn uniongyrchol nac yn anuniongyrchol), yn cael ei chadw am gyfnod amhenodol.
-
Eich Hawliau:
Yn dibynnu ar y gyfraith sy’n berthnasol, mae’n bosibl y bydd gennych hawl i geisio a chywiro neu gael gwared ar eich data personol neu gael copi o’ch data personol, cyfyngu neu wrthod y gwaith o brosesu eich data yn weithredol, gofyn i ni rannu eich gwybodaeth bersonol ag endid arall, tynnu’n ôl unrhyw ganiatâd y rhoesoch i ni i brosesu eich data, hawl i gyflwyno cwyn gydag awdurdod statudol a hawliau eraill fel sy’n berthnasol dan gyfreithiau priodol. I ddefnyddio’r hawliau hyn, gallwch ysgrifennu atom: reesbrown@uchelgaisgogledd.cymru. Byddwn yn ymateb i’ch cais yn unol â’r gyfraith berthnasol.
Cewch ddewis peidio â chael unrhyw ohebiaeth farchnata uniongyrchol neu’r gwaith proffilio yr ydym yn ei wneud at ddibenion marchnata drwy ysgrifennu atom: reesbrown@uchelgaisgogledd.cymru.
Noder, os nad ydych yn caniatáu i ni gasglu neu brosesu’r wybodaeth bersonol ofynnol neu dynnu’n ôl y caniatâd i brosesu’r un wybodaeth at y dibenion gofynnol, mae’n bosibl na allwch chi geisio na defnyddio’r gwasanaethau y casglwyd eich gwybodaeth ar eu cyfer.
-
Cwcis Etc.
I gael gwybod mwy am sut ydym yn defnyddio’r rhain a’ch dewisiadau mewn perthynas â’r technolegau tracio hyn, darllenwch ein Polisi Cwcis.
-
Diogelwch:
Mae diogelwch eich gwybodaeth yn bwysig i ni a byddwn yn defnyddio mesurau diogelwch rhesymol i atal y wybodaeth yn eich cylch chi sydd dan ein rheolaeth ni rhag cael ei cholli, ei chamddefnyddio neu ei haddasu heb awdurdod. Wedi dweud hynny, o ystyried y risgiau cynhenid, ni allwn warantu diogelwch absoliwt ac o’r herwydd hynny, ni allwn sicrhau na gwarantu diogelwch unrhyw wybodaeth yr ydych chi’n ei rhannu gyda ni ac rydych chi’n gwneud hynny ar eich perwyl eich hun.
-
Dolenni Trydydd Parti a Defnydd O’ch Gwybodaeth:
Gall ein Gwasanaeth gynnwys dolenni at wefannau eraill nad ydynt yn cael eu gweithredu gennym ni. Nid yw Polisi Preifatrwydd hwn yn mynd i’r afael â’r polisi preifatrwydd ac arferion eraill unrhyw drydydd parti, gan gynnwys unrhyw drydydd parti sy’n gweithredu unrhyw wefan neu wasanaeth y gellir ei geisio drwy ddolen ar y Gwasanaeth. Rydym yn eich cynghori’n gryf i fwrw golwg ar bolisi preifatrwydd pob safle y byddwch chi’n ymweld â hi. Does gennym ni ddim rheolaeth dros gynnwys, polisïau preifatrwydd neu arferion safleoedd neu wasanaethau unrhyw drydydd parti, ac nid ydym yn cymryd arnom unrhyw gyfrifoldeb drostynt ychwaith.
-
Swyddog Cwynion / Diogelu Data:
Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau neu bryderon ynghylch prosesu eich gwybodaeth sydd ar gael i ni, mae rhwydd hynt i chi anfon e-bost at ein Swyddog Cwynion i Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol Cymru, Adeiladau’r Llywodraeth, Sarn Mynach, Cyffordd Llandudno, e-bost: reesbrown@uchelgaisgogledd.cymru. Byddwn yn mynd i’r afael â’ch pryderon yn unol â chyfraith berthnasol.
Polisi Preifatrwydd wedi’i greu gyda CookieYes.