Cefndir y Portal

Mae Bartneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Gogledd Cymru wedi bod yn gweithio gyda chyflogwyr, unigolion, a darparwyr hyfforddiant a chefnogaeth er mwyn ei gwneud hi’n haws dod o hyd i gyfleoedd lleol, a gwneud y mwyaf ohonynt.

Pam mae’n bodoli?

Drwy wneud gwaith ymchwil i’r farchnad a thrafod â chyflogwyr, gwelodd Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Gogledd Cymru fod angen symleiddio’r ffordd o rannu gwybodaeth am gyfleoedd lleol. Mae hyn oherwydd bod:

  • 70% o gyflogwyr yn wynebu heriau sgiliau
  • Cynnydd yn nifer yr unigolion nad ydynt mewn addysg, hyfforddiant na chyflogaeth
  • 47% o gyflogwyr yn dweud eu bod yn ‘ei chael hi’n anodd dod o hyd i ddarparwyr hyfforddiant’
  • Bron i 50% o bobl dan 24 oed yn teimlo ‘nad ydynt yn barod i wneud y swydd neu’r cwrs sy’n mynd â’u bryd’.

Canfyddiadau o Arolwg Cyflogwyr PSRhGC (2023) | Sgwrs Genedlaethol Gwarant Pobl Ifanc (2024) | Cwestiynau Arolwg Omnibws (2023)

RSP event 2024

Nodau’r Portal

Nod Portal Sgiliau Gogledd Cymru yw bod yn borth ar-lein sy’n symleiddio’r cyfleoedd o ran sgiliau, cyflogaeth, a thyfu busnesau yn y rhanbarth, gan gysylltu unigolion, cyflogwyr, a darparwyr hyfforddiant a chefnogaeth.

Employer event 2024

Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Gogledd Cymru

Mae PSRh Gogledd Cymru yn un o bedair partneriaeth ledled Cymru, sy’n dwyn ynghyd cyflogwyr, darparwyr sgiliau a rhanddeiliaid lleol allweddol er mwyn cael gwell dealltwriaeth o anghenion cyflogwyr o ran sgiliau, a hynny ar lefel leol a rhanbarthol.

Fel rhan o strwythur Uchelgais Gogledd Cymru, mae tîm Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Gogledd Cymru yn gweithio’n effeithiol ar draws prosiectau’r Fargen Dwf er mwyn pennu cwmpas a dod i ddeall eu gofynion o ran sgiliau.

North Wales Regional Skills Partnership Team