Rhowch hwb i’ch gyrfa!

Mae yna amrywiaeth o gyfleoedd i’w cael yng Ngogledd Cymru, o gyrsiau byr, cymwysterau cydnabyddedig a chymorth er mwyn eich helpu i gyflawni eich nodau gyrfa.

Datblygiad proffesiynol

Awyddus i roi hwb i’ch datblygiad proffesiynol?

P’un a ydych yn chwilio am her newydd, rhagor o oriau neu fwy o gyflog, mae datblygu’r sgiliau sydd gennych eisoes a dysgu rhai newydd yn agor mwy o ddrysau i symud ymlaen yn eich gyrfa.

Pa opsiynau sydd ar gael?

P’un a ydych mewn swydd ar hyn o bryd, yn awyddus i ddatblygu neu’n ystyried newid gyrfa, mae’n bwysig dal ati i ddysgu sgiliau newydd er mwyn parhau i fod yn gystadleuol a symud ymlaen. Mae gwahanol opsiynau ar gael i gefnogi hyn, sydd yn aml wedi’u hariannu neu’n wedi’u hariannu’n rhannol drwy raglenni fel y Cyfrif Dysgu Personol (CDP). Am ragor o wybodaeth am y CDP, ewch i Gyrfa Cymru.

Mae Cyrsiau Byr a Hyfforddiant DPP Prifysgol Bangor yn cynnig ystod amrywiol o gyrsiau byr a chyfleoedd Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP) sydd wedi’u cynllunio i atgyfnerthu sgiliau proffesiynol, ail-sgilio, neu ymchwilio i ddiddordebau newydd. Caiff y cyrsiau, sydd ar gael ar y campws ac ar-lein, eu cyflwyno gan arbenigwyr academaidd a gweithwyr proffesiynol y diwydiant. Ymhlith y prif feysydd mae Busnes ac Addysg Weithredol, Troseddeg, addysg, yr Amgylchedd, Iechyd a Gofal Cymdeithasol, ac Ieithoedd. Mae’r cyrsiau hyn yn hyblyg a chynhwysol, ac maent wedi’u cynllunio ar gyfer gwahanol lefelau ac amserlenni.

Mae Cyrsiau Byr Prifysgol Wrecsam yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau byr a gynlluniwyd i helpu unigolion i ddysgu sgiliau newydd neu ddatblygu rhai y maent yn meddu arnynt eisoes. Mae’r cyrsiau hyn ar gael fel dosbarthiadau dydd neu gyda’r nos, gydag ambell un yn cael eu cynnig ar-lein er mwyn darparu ar gyfer gwahanol amserlenni. Mae pynciau’n amrywio rhwng hyfforddiant chwaraeon a marchnata digidol, neu ddatblygiad gyrfa a sgiliau TG. Mae nifer o’r cyrsiau hyn yn rhad ac am ddim i fyfyrwyr sy’n byw yng Nghymru, gan gynnig cyfleoedd hygyrch ar gyfer twf proffesiynol.

Mae Cymwysterau Micro y Brifysgol Agored yng Nghymru yn gyrsiau datblygiad proffesiynol byr sydd â’r nod o feithrin sgiliau gyrfa y mae galw amdanynt yn gyflym. Fel arfer, mae’r cyrsiau hyn yn para 10-12 wythnos ac mae gofyn am 10-13 awr o astudiaeth bob wythnos. Ymhlith yr ystod o bynciau yr ymdrinnir â hwy mae Arwain a Rheoli, Cyfrifiadura a Thechnolegau Digidol, yr Amgylchedd, Newid yn yr Hinsawdd a Chynaliadwyedd, a Datblygu Athrawon. Mae Cymwysterau Micro yn cynnig sgiliau ymarferol a gallant gyfrannu at gymwysterau pellach.

A woman at a conference listening to a talk