Os ydych yn 16-19 oed ac yn chwilio am y cam priodol nesaf i’r byd addysg neu i’r byd gwaith, gall Twf Swyddi Cymru+ eich cefnogi i gyflawni eich nod. Mae hon yn ffordd wych o roi hwb i’ch hyder, meithrin eich sgiliau
ac ennill profiad drwy gael blas ar waith mewn maes a all fod o ddiddordeb i chi.
Mae Twf Swyddi Cymru+ yn cynnig mynediad rhad ac am ddim i hyfforddiant, lleoliadau gwaith a swyddi â thâl gyda chyflogwyr yn eich
ardal. Mae’r rhaglen yn hyblyg ac wedi’i chynllunio’n benodol ar eich cyfer chi, felly mae’n opsiwn gwych waeth pa lefel o gymorth sydd ei hangen arnoch.
(Lefel-A, BTEC neu gymwysterau Lefel 3 eraill)
P’un a ydych eisiau parhau eich astudiaethau yn y chweched dosbarth neu yn y coleg, mae’r ddau opsiwn fel arfer yn cynnig cymwysterau Lefel-A neu BTEC (ond gall hyn amrywio o sefydliad i sefydliad).
Mae astudio cymwysterau Lefel-A, BTEC neu gymwysterau cyfwerth eraill yn ffordd wych o atgyfnerthu eich gwybodaeth a datblygu eich sgiliau, gan eich galluogi i wella eich annibyniaeth a’ch cymhelliant.
Ar gael i unigolion 16+
Mae prentisiaethau’n ffordd wych o gyflymu eich gyrfa drwy gynnig profiad yn y gweithle a sgiliau sy’n benodol i’r swydd. Fel prentis, mae modd i chi ennill cyflog wrth weithio a dysgu.
Mae prentisiaethau ar gael mewn amrywiaeth eang o rolau swydd a sectorau. Mae yna brentisiaeth i bawb, pa bynnag lefel eich sgiliau neu pa le bynnag rydych chi arni ar eich taith addysg neu yrfa.
Mae prentisiaethau ar gael o lefel 2 i lefel 5 ar gyfer rhai cyrsiau.
Ar gael i unigolion 16+
Bydd camu i mewn i addysg uwch yn rhoi cyfle i chi astudio eich pwnc o ddewis ac atgyfnerthu eich gwybodaeth. Yn ogystal â bod yn ffordd wych o loywi eich sgiliau, mae mynd i’r brifysgol yn rhoi cyfle i chi feithrin sgiliau bywyd hanfodol wrth ichi ddod yn annibynnol.
Mae astudio yn y brifysgol yn eich galluogi i wella eich sgiliau cyfathrebu, magu hyder a dysgu ireoli eich amser, y mae pob un ohonynt yn sgiliau craidd pan fyddwch yn camu i’r gweithle. Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am fynd i’r brifysgol, cysylltwch â Gyrfa Cymru neu ewch i wefan UCAS
Ar gael i unigolion 18+
Mae prentisiaethau gradd yn brentisiaethau lefel 6 a dyma’r lefel uchaf o brentisiaeth y mae modd ei chwblhau yng Nghymru.
Yng Ngogledd Cymru, gallwch bellach gwblhau prentisiaeth gradd mewn Sgiliau Digidol/TGCh, Peirianneg, Gweithgynhyrchu Uwch ac Ynni Carbon Isel, Effeithlonrwydd a Chynaliadwyedd. Mae’r rhaglenni hyn yn cynnig llwybr dysgu amgen, seiliedig ar waith, at radd.
Ar ôl cwblhau’r rhaglen, byddwch yn derbyn gradd brifysgol lawn gan un o’n prifysgolion rhanbarthol. Mae rhoi’r sgiliau a’r wybodaeth a ddysgwyd ar waith yn y gweithle yn elfen allweddol o brentisiaeth gradd. Cewch ragor o wybodaeth am brentisiaethau yma neu ar wefan Gyrfa Cymru.
Ar gael i unigolion 18+
Nid yw’r byd academaidd yn gweddu i bawb – ar ôl gorffen eich cymhwyster cyfredol, efallai y byddai’n well gennych chwilio am waith. Mae gan Ogledd Cymru amrywiaeth eang o gyflogwyr diddorol y gallech weithio â hwy, sy’n cynnig cyfleoedd gwych i ffynnu a datblygu.
Gall Gyrfa Cymru eich helpu i lunio CV ac ysgrifennu ffurflenni cais a datganiadau personol. Gall hefyd eich helpu i baratoi ar gyfer cyfweliadau neu ddod o hyd i gyflogwyr sy’n recriwtio.
I ddysgu rhagor am y cymorth sydd ar gael ar eich cyfer, cysylltwch â Gyrfa Cymru
Ar gael i unigolion 18+ (Dibynnol ar y cyflogwr)
A oes gennych syniad busnes a allai fod yn llwyddiannus yn eich tyb chi? Mae cael y meddylfryd priodol yn gam cyntaf tuag at ddod yn entrepreneur! Os ydych yn llawn cymhelliant, yn wydn ac yn barod i weithio’n galed, efallai bod gennych yr hyn sydd ei angen i redeg eich busnes eich hun. Gyda’r cymorth priodol a rhywfaint o hunan-gred, pwy a ŵyr i ble y gallai eich syniadau eich tywys chi.
I ddysgu rhagor am sut ddechrau arni gydag hunangyflogaeth, cysylltwch â Busnes Cymru am gyngor i gychwyn busnes a hyfforddiant busnes rhad ac am ddim.
Gall Cymru’n Gweithio hefyd eich cefnogi i ddatblygu eich syniadau busnes.
Ar gael i unigolion 16+
Mae profiad gwaith yn rhan hanfodol o’ch gallu i fod yn barod am waith. Mae profiad gwaith yn gyfle i chi ddysgu sgiliau newydd ac archwilio gwybodaeth am ddiwydiant trwy dreulio amser yn y gweithle.
Mae’r Cwricwlwm Newydd i Gymru wedi’i gynllunio i wreiddio Gyrfaoedd a Phrofiad Cysylltiedig â Gwaith (CWRE) yn eich dysgu bob dydd yn yr ysgol er mwyn rhoi cipolwg newydd i chi ar lwybrau gyrfa a chyfleoedd ar draws pob sector. Profiad gwaith yw’r ffordd orau i chi ddod i wybod beth rydych chi’n ei garu, a dechrau meithrin sgiliau cyn mynd i mewn i’r byd gwaith.
Ar gael i unigolion 16+ (Dibynnol ar y cyflogwr)
Mae gwirfoddoli yn ffordd werth chweil o gefnogi eich cymuned. Waeth faint bynnag o amser y gallwch ei ymroi, bydd yna gyfleoedd i’ch siwtio chi. Mae gwirfoddoli yn rhywbeth y gallwch ei wneud yn eich amser sbâr, p’un a ydych yn parhau i astudio, eisoes mewn gwaith neu wrth ystyried eich opsiynau. Drwy wirfoddoli, gallwch wella eich rhagolygon gwaith a dysgu sgiliau newydd, gan eich helpu i roi hwb i’ch hunanhyder.
Yn ogystal, mae gwaith gwirfoddol yn rhywbeth gwych i’w roi ar eich CV gan ei fod yn dangos bod gennych y cymhelliant i ddatblygu eich hun wrth gefnogi eich cymuned ar yr un pryd.
Ar gael i unigolion 16+ (Gall hyn amrywio fesul sefydliad)
Ddim yn siŵr pa gamau i’w cymryd nesaf? Beth am gymryd blwyddyn i ffwrdd! Fel arfer, mae blwyddyn i ffwrdd yn cyfeirio at yr amser i ffwrdd a dreulir gan unigolion sydd wedi gorffen eu haddysg yn y coleg neu’r chweched dosbarth. Mae eich blwyddyn i ffwrdd yn yn unigryw i chi a’r hyn rydych chi am ei gyflawni. Mae’n gyfnod cyffrous y gallech ei dreulio’n ennill profiad gwaith, gwirfoddoli neu deithio hyd yn oed.
Mae gwybodaeth i’w chael gan Gyrfa Cymru sy’n sôn am y gwahanol ffyrdd y gallwch gael blwyddyn i ffwrdd werth chweil
Ar gael i unigolion 16+