Cefnogaeth gyda Sgiliau Busnes

Mae yna ystod eang o gefnogaeth ar gael i’ch cynorthwyo chi ar bob cam o’ch taith fusnes

Cefnogaeth Leol a Chenedlaethol

Mae gwefan Recriwtio a Hyfforddi Busnes Cymru yn darparu adnoddau ar gyfer cefnogaeth gan gynnwys datblygiad gweithlu, hyfforddiant a recriwtio.

Gall eich awdurdod lleol a’ch darparwyr hyfforddiant a chefnogaeth lleol hefyd eich helpu i weld pa gyfleoedd sydd ar gael yn eich ardal.

Rhaglen Sgiliau Hyblyg

Mae Rhaglen Sgiliau Hyblyg Busnes Cymru yn cynnig cymorth ariannol i fusnesau yng Nghymru i helpu i fynd i’r afael â bylchau sgiliau a gwella sgiliau eu gweithlu gan ganolbwyntio ar:

  • Sgiliau Digidol Uwch: Ar gyfer busnesau sy’n edrych i wella eu galluoedd digidol.
  • Sgiliau Allforio: I wella gallu busnesau i allforio.
  • Peirianneg a Gweithgynhyrchu: Mynd i’r afael â bylchau sgiliau penodol yn y sectorau hyn.
  • Sector Creadigol: Cefnogi datblygiad sgiliau yn y diwydiannau creadigol.
  • Heriau Net Sero: Helpu busnesau i ddatblygu sgiliau i gyflawni nodau amgylcheddol
  • Twristiaeth a Lletygarwch: Gwella sgiliau yn y sectorau hyn i wella gwasanaeth a thwf.

Bydd pob cwrs hyfforddi cymeradwy yn denu cyfraniad o 50% tuag at y costau cymwys gan Lywodraeth Cymru ac mae’n ofynnol i fusnesau fod wedi’u lleoli yng Nghymru, yn hyfyw, ac yn ymrwymedig i gwblhau hyfforddiant erbyn Mawrth 2026

Cymunedau busnes clos

Mae gan Ogledd Cymru gymunedau busnes bywiog a chlos lle mae entrepreneuriaid yn cefnogi ei gilydd drwy grwpiau ar gyfer busnesau a mentrau lleol. Cynhelir digwyddiadau, gweithdai a sesiynau hyfforddiant rheolaidd i atgyfnerthu sgiliau perchnogion busnes a meithrin amgylchedd o gydweithio.

Mae sefydliadau sy’n codi tâl aelodaeth fel y Ffederasiwn Busnesau Bach a’r Siambr Fasnach leol yn cynnig cefnogaeth fusnes werthfawr ac arbenigol, a chyfleoedd ar gyfer rhwydweithio a thwf proffesiynol.

A tight-knit community