Cadw staff
Drwy gynnig cyfleoedd ar gyfer datblygu sgiliau, datblygiad gyrfa, a chreu amgylchedd gwaith cadarnhaol, mae modd i gwmnïau wella bodlonrwydd a chyfraddau cadw staff.
Mae rhoi trefniadau gweithio hyblyg ar waith, darparu rhaglenni cydnabyddiaeth, a sicrhau bod gweithwyr yn rhan o’r broses gwneud penderfyniadau hefyd yn strategaethau effeithiol i leihau trosiant staff. Yn y pen draw, mae buddsoddi mewn strategaethau cadw staff yn arbed costau sy’n gysylltiedig â throsiant staff yn ogystal a chyfrannu at weithlu mwy cynhyrchiol a brwdfrydig.
Gweler isod ychydig o awgrymiadau i helpu i gynyddu cyfraddau cadw staff:
Eu helpu i ffynnu a chanolbwyntio ar ddatblygu sgiliau:
Dylech gynnig gyfleoedd hyfforddi a datblygu, trafod eu nodau gyrfa a’r sgiliau sydd eu hangen arnynt ar gyfer eu rôl ac i symud ymlaen yn eu rôl – Mae busnesau sy’n canolbwyntio ar ddatblygiad yn ei chael yn haws i gadw staff.
Helpwch staff i gael mynediad at gyfleoedd datblygu
Rhaglenni Hyfforddiant:
Buddsoddwch mewn hyfforddiant er mwyn helpu gweithwyr i ddysgu sgiliau newydd, i deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, a’u paratoi nhw ar gyfer swyddi yn y dyfodol
Rhoi adborth:
Dylech gynnal sesiynau dal i fyny yn rheolaidd a darparu adborth adeiladol er mwyn eu helpu i wella
Cyfle i weithwyr ymgysylltu
Dylech eu cynnwys i wneud penderfyniadau, a chreu amgylchedd gwaith cadarnhaol lle cânt eu clywed.
Tâl cystadleuol:
Dylech gynnig cyflogau teg a buddion i ddenu a chadw gweithwyr. Dysgwch ragor am sut all eich busnes elwa o gynnig Gwaith Teg
Cydnabod eu hymdrechion
Dylech wobrwyo a chydnabod gweithwyr am eu cyflawniadau
Cydbwysedd rhwng gwaith a bywyd a chreu gweithle mwy iach:
Dylech annog cydbwysedd rhwng gwaith a bywyd ac atal gorweithio. Mae Strategaeth Dinas y Rhyl (RCS) yn cynnig cefnogaeth, hyfforddiant a therapïau wedi’u teilwra i wella iechyd a llesiant gweithwyr – cefnogaeth megis rheoli straen, gweithdai llesiant ariannol a chymorth iechyd meddwl er mwyn creu gweithle mwy iach.
Sicrhau bod cymorth priodol wedi’i ddarparu pan nad oes modd i chi gadw staff:
Os nad yw’ch busnes yn ddigon ffodus i allu cadw staff ymlaen, mae ReAct+ yn cynnig cymorth i weithwyr sy’n debygol o golli eu swyddi. Mae hyn yn cynnwys grantiau ar gyfer hyfforddiant galwedigaethol, costau teithio, a gofal plant, gan eu cynorthwyo i ddychwelyd yn gyflym i’r farchnad waith. Gall darparwyr hyfforddiant a chymorth helpu hefyd – sicrhewch fod eich gweithwyr yn gwybod lle i geisio cymorth pan fo’i angen arnynt.
Yn ogystal, mae modd i’r Adran Gwaith a Phensiynau ac awdurdodau lleol gefnogi a chydlynu Gwasanaeth Ymateb Cyflym, a chydlynu’r math priodol o gymorth i staff a effeithiwyd.