Cynllunio Lleoliadau Profiad Gwaith Llwyddiannus
Mae cynnig profiad gwaith yn golygu llawer mwy na rhoi wythnos i berson ifanc yn eich gweithle—mae’n gyfle i nodi talent y dyfodol, codi proffil eich sefydliad, a siapio’r genhedlaeth nesaf o weithwyr medrus.
Mae Llywodraeth Cymru wedi datblygu cyfres o adnoddau ymarferol, hawdd eu defnyddio i helpu cyflogwyr greu lleoliadau profiad gwaith ystyrlon, strwythuredig, sy’n dod â budd i’ch busnes a’r dysgwr.
Wedi’u halinio â’r Cwricwlwm i Gymru, mae’r canllawiau’n eich tywys gam wrth gam drwy bopeth sydd ei angen arnoch i redeg lleoliad llwyddiannus—o’r tasgau cynllunio i’r gweithgareddau bob dydd ac adolygu ar ôl y lleoliad. Gyda disgwyliadau rôl clir ac offer parod megis canllawiau, llifluniau a thempledi rhyngweithiol, maent wedi’u cynllunio i wneud cynnal lleoliad yn syml, gwerthfawr ac yn brofiad cadarnhaol.
Sut mae’r canllawiau’n eich cefnogi:
- Deall sut olwg sydd ar leoliad profiad gwaith o ansawdd uchel
- Mwyhau’r buddion i’ch sefydliad a’r dysgwr
- Sicrhau bod y lleoliad yn ystyrlon ac yn un sy’n cyd-fynd â’r Cwricwlwm i Gymru
- Gwybod yn union beth i’w wneud cyn, yn ystod, ac ar ôl y lleoliad
- Cefnogi dysgwyr yn effeithiol trwy gydol eu hamser gyda chi
- Gwerthuso a gwella’r lleoliad i gefnogi recriwtio yn y dyfodol
- Cyrchu offer ac adnoddau pellach i wneud y broses hyd yn oed yn haws
Canllaw profiad gwaith
Mynwch yr adnodd llawn gan Lywodraeth Cymru yma, neu cysylltwch â darparwyr hyfforddiant a chymorth lleol am gymorth arbenigol i greu lleoliadau sy’n gweithio i’ch busnes a’ch dysgwyr.