ADNODDAU AR GYFER CYFLOGWYR

Cynnig Prentisiaethau Gradd yng Ngogledd Cymru

Rees Brown - Skills Portal Project Manager

Rees Brown

12.02.2026

Pam Cynnig Prentisiaethau Gradd?

Mae Prentisiaethau Gradd yn cyfuno gwaith llawn amser ag astudio rhan-amser mewn prifysgol, gan ganiatáu i weithwyr presennol neu recriwtiaid newydd ennill gradd gydnabyddedig wrth gyfrannu at eich busnes. Fe’u cynlluniwyd mewn partneriaeth â chyflogwyr i ddiwallu anghenion y diwydiant a datblygu sgiliau lefel uchel.

  • Mynediad at gyllid: Mae cyllid Llywodraeth Cymru yn talu costau’r dysgu, gan ei wneud yn ffordd gost-effeithiol o uwchsgilio eich gweithlu.
  • Denu a chadw talent: Cynnig llwybr gyrfa deniadol i recriwtiaid newydd a staff presennol.
  • Datblygu arweinwyr y dyfodol: Adeiladu llif o weithwyr proffesiynol medrus iawn wedi’u teilwra i’ch busnes.
  • Hybu cynhyrchiant: Mae prentisiaid yn cymhwyso eu dysgu’n uniongyrchol yn y gweithle.
  • Cefnogi blaenoriaethau rhanbarthol: Mae Prentisiaethau Gradd yn cyd-fynd â sectorau allweddol yng Ngogledd Cymru, gan gynnwys digidol, peirianneg, a sgiliau gwyrdd.

Employer Requirements and Enrolment

Business Eligibility
Employer Responsibilities
  • Provide a contract of employment for the duration of the apprenticeship.
  • Pay the apprentice’s salary.
  • Assign a workplace mentor.
  • Collaborate with the provider on progress reviews and assessments.
Enrolment Process
  • Contact a university or provider to discuss programme options.
  • Confirm eligibility and programme fit.
  • Apprentice applies and is enrolled via the admissions/onboarding process.
  • Funding is arranged through the Welsh Government (no levy account required).
  • Apprenticeship agreement is signed between employer, apprentice, and provider.

Prentisiaethau Gradd yng Ngogledd Cymru

Tabl yn dangos pa brentisiaethau gradd sydd ar gael mewn sefydliadau addysg uwch ledled Gogledd Cymru
Prifysgol Bangor Prifysgol Wrecsam Y Brifysgol Agored Coleg Cambria Grŵp Llandrillo Menai
Gweithgynhyrchu Uwch  
 
 
Peirianneg Meddalwedd Gymhwysol
Peirianneg Data Gymhwysol
 
Seiberddiogelwch Gymhwysol
 
Peirianneg Awyrenegol      
 
Peirianneg Fecanyddol
   
Peirianneg Drydanol
   
Ynni Carbon Isel, Effeithlonrwydd ac Cynaliadwyedd  
     
Arolygu Adeiladau  
 
 
Peirianneg Sifil  
 
 
Rheoli Adeiladu  
 
 
Arolygu Meintiau  
 
 

Sweipiwch ar draws i weld y tabl llawn

Sut i Recriwtio Prentis Gradd yng Nghymru

Canllaw Cam-wrth-Gam

  1. Adnabod Anghenion Sgiliau
    Ystyried bylchau sgiliau presennol a’r rhai fydd yn dod yn y dyfodol.
  2. Cysylltu â Phrifysgol yng Nghymru
    Gall prifysgolion helpu i gynllunio rhaglenni sy’n addas i’ch busnes.
  3. Cytuno ar Strwythur y Rhaglen
    Fel arfer 3–5 mlynedd, gyda thua 20% o amser ar gyfer astudio.
  4. Recriwtio neu Uwchsgilio Staff
    Rhaid i brentisiaid fod wedi’u cyflogi yng Nghymru am o leiaf 51% o’u hamser ac yn bodloni gofynion mynediad y brifysgol.
  5. Mynediad at Gyflid
    Mae ffioedd dysgu yn cael eu hariannu’n llawn gan Lywodraeth Cymru. Cyflogwyr yn talu’r cyflog yn unig.
  6. Hysbysebu’r Rôl (os yn recriwtio)
    Defnyddiwch Gwasanaeth Swyddi Prentisiaethau Cymru (AVS) am ddim, ynghyd â’ch sianeli recriwtio eich hun.
  7. Cefnogi’r Prentis
    Darparu rôl addas, mentor, a chydweithio gyda’r brifysgol.

Beth i’w Wneud Nesaf

Darganfod darparwr hyfforddiant: Ewch i’n tudalen Darparwyr Hyfforddiant a Chefnogaeth i weld partneriaid cymeradwy sy’n gallu darparu’r brentisiaeth gradd gywir i’ch sefydliad.

Hysbysebu’ch swydd wag: Hysbysebwch eich rôl Prentisiaeth Gradd am ddim ar y Gwasanaeth Swyddi Prentisiaethau Cymru (AVS) a dechrau denu ymgeiswyr.

Manager explaining strategy

Wyddoch chi? Pan fyddwch yn hysbysebu prentisiaeth ar yr AVS, mae’r swydd yn cael ei rhannu’n awtomatig ar Portal Sgiliau Gogledd Cymru.