Dechrau busnes
Beth bynnag sy’n eich cymell i ddechrau busnes a mynd yn hunangyflogedig, mae amrywiaeth o gymorth lleol a chenedlaethol ar gael i roi eich busnes ar ben ffordd o’r cychwyn cyntaf.
Yr hyn sy’n ddisgwyliedig
Gallwch ddisgwyl digonedd o gymorth i’ch rhoi ar ben ffordd a’ch cefnogi drwy’r dyddiau cynnar. O gynllunio busnes ac ymchwil i’r farchnad i reoli cyllid a marchnata, mae cyfoeth o adnoddau a chymorth i’w cael ar eich cyfer.
Mae rhaglenni cenedlaethol yn cynnig cefnogaeth leol a chymorth ar-lein. Yn ogystal, gall darparwyr hyfforddiant a chymorth lleol eich helpu i ddechrau busnes a dod yn hunangyflogedig.
Os byddwch yn gymwys, gall darparwyr hyfforddiant a chymorth eich helpu i oresgyn unrhyw rwystrau a allai wneud eich taith tuag at hunangyflogaeth yn un heriol, a gallant eich helpu i ddod o hyd i’r gefnogaeth er mwyn i chi gael y siawns orau o wireddu eich syniad.

Datblygu eich syniad
Mae Busnes Cymru yn darparu ystod gynhwysfawr o ganllawiau a thaflenni ffeithiau yn ymwneud â phynciau fel cynllunio busnes, ymchwil i’r farchnad, marchnata a rheoli cyllid. Mae Busnes Cymru hefyd yn cynnig Gwasanaeth Cymorth Busnes Ar-lein (BOSS) gyda chyrsiau rhyngweithiol.
Ewch i’w Gwasanaeth Cymorth Busnes Ar-lein: Tudalen Gartref | BOSS (llyw.cymru)
Mae rhaglen Syniadau Mawr Cymru wedi’i hanelu at unigolion dan 25 oed, gan ddarparu gweithdai a chanllawiau digidol er mwyn eich helpu i ddatblygu eich syniadau busnes. Mae’r rhaglen hefyd yn cynnig cynghorwyr busnes un i un, mentoriaid entrepreneur a grantiau dechrau busnes hyd at £2000 i bobl ifanc
Cymerwch olwg ar eu map trywydd dechrau busnes: Map trywydd dechrau busnes | Busnes Cymru – Syniadau Mawr (llyw.cymru)
Mae M-Sparc a’r Hwb Menter yn cynnig gwybodaeth, arweiniad, ysbrydoliaeth a lle i entrepreneuriaid drawsnewid eu syniad yn fusnes llwyddiannus. Mae eu platfform newydd sbon, MySparc, yn gysylltiad digidol i gymorth busnes, ar eich telerau chi, yn eich amser chi, mewn un man. Gall MySparc helpu unigolion gyda syniadau, busnesau newydd a busnesau bach drwy eu cysylltu ag asiantau cymorth busnes a chynghorwyr pwrpasol.

Cyfleoedd cyllid
Grantiau
Cyllid busnes
Benthyciadau dechrau busnes
Syniadau Mawr Cymru | Grant Dechrau Busnes Pobl Ifanc
Bydd y Grant Dechrau Busnes Pobl Ifanc yn galluogi pobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant i ddechrau eu busnes eu hunain, creu menter gymdeithasol, mynd yn hunangyflogedig, yn weithiwr llawrydd neu’n entrepreneur cymdeithasol yng Nghymru. Mae grant o hyd at £2,000 ar gael i helpu pobl ifanc ddechrau busnes. Er mwyn sicrhau bod y busnes yn cael y cyfle gorau posibl i lwyddo, bydd y grant ar gael ochr yn ochr â phecyn cefnogaeth a fydd yn cynnwys cyngor un i un, gweminarau i fagu hyder mewn ymarferion busnes a datblygu cynlluniau ar gyfer dechrau busnes.
Rhagor o wybodaethBanc Datblygu Cymru | Benthyciadau Busnes Mawr
Boed a oes angen cyllid arnoch i wella cyfalaf gweithio, cyflymu twf, neu brynu busnes, mae yna fenthyciadau y gellir eu teilwra i gyd-fynd â’ch gofynion. Gyda rheolwyr cyfrif lleol yn cynnig cefnogaeth barhaus wyneb yn wyneb, maent yn sicrhau eu bod yn deall anghenion penodol eich busnes ac yn eich helpu chi i gyflawni’ch potensial. Gallant gyfuno benthyciadau a chyllid ecwiti, a gweithio ochr yn ochr â darparwyr cyllid eraill (banciau, cyllido torfol, grantiau, buddsoddwyr a benthycwyr eraill) i gynnig pecyn cyllid unigryw ar gyfer eich busnes chi.
Rhagor o wybodaethBanc Datblygu Cymru | Cynllun Benthyciad Busnes Gwyrdd
Boed ydych yn megis dechrau arni neu’n parhau ar y daith o ddatgarboneiddio eich busnes, mae’r Cynllun Benthyciad Busnes Gwyrdd yn cynnig pecyn deniadol o gyllid i gefnogi’ch busnes. Mae yna fenthyciadau o rhwng £1,000 a £1.5m ar gael, yn ogystal â chyngor gan arbenigwyr a chyllid i dalu am wasanaeth ymgynghori ar ynni.
Rhagor o wybodaethBanc Datblygu Cymru | Micro Fenthyciadau
Mae Banc Datblygu Cymru yn cynnig micro fenthyciadau o £1,000 i £100,000 i helpu busnesau newydd i dyfu ac i’ch gweld chi’n mynd o nerth i nerth yn ystod y blynyddoedd cyntaf. Os ydych chi’n chwilio am gyllid i sefydlu eich busnes, fel arfer mae gofyn i chi wneud cyfraniad o’ch arian personol. Pa bynnag sector ydych chi’n camu iddo, gall benthyciadau dechrau arni eich helpu chi i dalu am y costau cychwynnol o ddechrau busnes.
Rhagor o wybodaethGrantiau
Cyllid busnes
Benthyciadau dechrau busnes
Darparwyr hyfforddiant a chymorth
Cysylltwch â rhai o’r darparwyr hyfforddiant a chymorth yng Ngogledd Cymru.
Diolch i’r Portal, cefais hyd i fy swydd berffaith!
Sarah L
