Tyfu’ch Busnes

Dewch o hyd i gyfleoedd newydd yng Ngogledd Cymru i dyfu eich busnes, o gael gafael ar gyllid i recriwtio a datblygu staff.

Recriwtio Staff

Awyddus i recriwtio? Ymchwiliwch i opsiynau recriwtio eraill sydd ar gael ar garreg eich drws.

O recriwtio drwy ddulliau traddodiadol fel hysbysebion ar fyrddau swyddi i ddewis dulliau eraill fel defnyddio rhaglenni cyflogadwyedd, mae yna opsiynau sydd wedi’u teilwra ar gael ar eich cyfer chi fel cyflogwr!

Two businesswomen discussing a project

Datblygu Staff

Mae uwchsgilio eich gweithlu yn dasg ddidrafferth gyda chymorth darparwyr lleol. Mae’r rhaglenni hyfforddi wedi’u cynllunio i fod yn hyblyg, gan ymateb i anghenion penodol y busnes.

Manteision Datblygu Sgiliau

  • Cynhyrchedd Uwch: Mae gweithwyr medrus yn fwy effeithlon ac effeithiol.
  • Cadw Cyflogeion: Mae buddsoddi mewn datblygiad staff yn cynyddu bodlonrwydd swydd a theyrngarwch.
  • Twf Busnes: Gweithlu medrus sydd wrth wraidd arloesedd a’ch gallu i gystadlu.
Man writing on a see through wall

Cadw Staff

Yn y farchnad swyddi heriol sydd ohoni, lle ceir nifer o swyddi gwag a llai o bobl i’w llenwi, mae cadw staff yn bwysicach nag erioed. Gall recriwtio gweithiwr newydd i swydd gostio 6-9 mis o gostau cyflog, felly mae’n hanfodol eich bod yn canolbwyntio ar ddal gafael ar eich tîm presennol.

Yn aml, mae gweithwyr yn gadael gan na allant weld llwybr i ddatblygu. Mae digonedd o gyfleoedd i’w cael yng Ngogledd Cymru i gefnogi staff i gyflawni eu potensial.

Recriwtio prentis

Manteision recriwtio Prentis

  • Cynhyrchedd Uwch: Daw prentisiaid â sgiliau a safbwyntiau newydd i’ch busnes.
  • Cost-effeithiol: Gall prentisiaethau fod yn ffordd gost-effeithiol o hyfforddi staff newydd.
  • Cadw Cyflogeion: Gall buddsoddi mewn prentisiaethau gryfhau teyrngarwch cyflogeion tuag atoch chi a lleihau trosiant staff.
  • Twf Busnes: Gweithlu medrus sydd wrth wraidd arloesedd a’ch gallu i gystadlu.
Apprentice seamstress

Syniadau Mawr Cymru | Grant Dechrau Busnes Pobl Ifanc

Bydd y Grant Dechrau Busnes Pobl Ifanc yn galluogi pobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant i ddechrau eu busnes eu hunain, creu menter gymdeithasol, mynd yn hunangyflogedig, yn weithiwr llawrydd neu’n entrepreneur cymdeithasol yng Nghymru. Mae grant o hyd at £2,000 ar gael i helpu pobl ifanc ddechrau busnes. Er mwyn sicrhau bod y busnes yn cael y cyfle gorau posibl i lwyddo, bydd y grant ar gael ochr yn ochr â phecyn cefnogaeth a fydd yn cynnwys cyngor un i un, gweminarau i fagu hyder mewn ymarferion busnes a datblygu cynlluniau ar gyfer dechrau busnes.

Rhagor o wybodaeth

Banc Datblygu Cymru | Benthyciadau Busnes Mawr

Boed a oes angen cyllid arnoch i wella cyfalaf gweithio, cyflymu twf, neu brynu busnes, mae yna fenthyciadau y gellir eu teilwra i gyd-fynd â’ch gofynion. Gyda rheolwyr cyfrif lleol yn cynnig cefnogaeth barhaus wyneb yn wyneb, maent yn sicrhau eu bod yn deall anghenion penodol eich busnes ac yn eich helpu chi i gyflawni’ch potensial. Gallant gyfuno benthyciadau a chyllid ecwiti, a gweithio ochr yn ochr â darparwyr cyllid eraill (banciau, cyllido torfol, grantiau, buddsoddwyr a benthycwyr eraill) i gynnig pecyn cyllid unigryw ar gyfer eich busnes chi.

Rhagor o wybodaeth

Banc Datblygu Cymru | Cynllun Benthyciad Busnes Gwyrdd

Boed ydych yn megis dechrau arni neu’n parhau ar y daith o ddatgarboneiddio eich busnes, mae’r Cynllun Benthyciad Busnes Gwyrdd yn cynnig pecyn deniadol o gyllid i gefnogi’ch busnes. Mae yna fenthyciadau o rhwng £1,000 a £1.5m ar gael, yn ogystal â chyngor gan arbenigwyr a chyllid i dalu am wasanaeth ymgynghori ar ynni.

Rhagor o wybodaeth

Banc Datblygu Cymru | Micro Fenthyciadau

Mae Banc Datblygu Cymru yn cynnig micro fenthyciadau o £1,000 i £100,000 i helpu busnesau newydd i dyfu ac i’ch gweld chi’n mynd o nerth i nerth yn ystod y blynyddoedd cyntaf. Os ydych chi’n chwilio am gyllid i sefydlu eich busnes, fel arfer mae gofyn i chi wneud cyfraniad o’ch arian personol. Pa bynnag sector ydych chi’n camu iddo, gall benthyciadau dechrau arni eich helpu chi i dalu am y costau cychwynnol o ddechrau busnes.

Rhagor o wybodaeth

Hidliadau

Sir

Cwestiynau cyffredin

Eisiau gofyn mwy o gwestiynau? Anfonwch neges at ein tîm: helo@portal-gogledd.cymru