ADNODDAU AR GYFER CYFLOGWYR

Sut i baratoi bid a cheisiadau ar gyfer cyllid

Rees Brown - Skills Portal Project Manager

Rees Brown

26.01.2025

Gall paratoi ar gyfer bidiau a cheisiadau am gyllid ymddangos yn feichus ac yn ddryslyd, I helpu, rydym newydd gyhoeddi cyfres o ddogfennau i gefnogi sefydliadau i ddatblygu prosiectau a chynigion cryfach, mwy cydlynol.

Crynodebau o’r 4 dogfen:

  1. Amlinelliad o’r Prosiect a’i Ymarferoldeb – dyma gam cyntaf y gwaith o ddatblygu eich syniad ar gyfer prosiect. Mae’r ddogfen hon yn ymwneud â phrofi dichonoldeb eich prosiect a datblygu amlinelliad o’r hyn yr ydych yn gobeithio ei wneud a sut.
  2. Datblygu Cais am Gyllid – unwaith y byddwch wedi cwblhau eich prawf dichonoldeb a chael amlinelliad o’ch prosiect efallai y byddwch yn ystyried gwneud cais am gyllid i symud y prosiect i’r cam nesaf. Mae’r ddogfen hon yn canolbwyntio ar ba wybodaeth y gallech fod am ei chynnwys mewn cais am arian a pham. Cofiwch deilwra unrhyw gyflwyniadau i ofynion y cyllidwr serch hynny!
  3. Geirfa a Chwestiynau Cyffredin – weithiau gall y derminoleg fod yn eithaf technegol, felly bydd y rhestr geirfa hon o gymorth i chi, yn ogystal â’r Cwestiynau Cyffredin a’r awgrymiadau da!
  4. Catalog Cymorth – weithiau mae’n syniad da gofyn am gymorth allanol, felly mae’r catalog hwn yn darparu ciplun o rai o’r grwpiau y gallwch gysylltu â hwy i gael cymorth ychwanegol pwrpasol.