Sectorau Gogledd Cymru

Dysgwch am y sectorau amrywiol sydd i’w cael yng Ngogledd Cymru – cyfleoedd gwaith nawr ac yn y dyfodol, llwybrau gyrfa a gwybodaeth werthfawr am gyflogau cyfartalog, sgiliau y mae cryn alw amdanynt, a chyflogwyr lleol

Trosolwg o’r Farchnad Lafur

Isod, ceir cipolwg ar wybodaeth am farchnad lafur Gogledd Cymru. I gael gwybodaeth fanylach, edrychwch ar Arsyllfa Ddata Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Gogledd Cymru lle cewch y data diweddaraf ynglŷn â’r economi, addysg, sgiliau, hyfforddiant a’r gweithlu ar gyfer Gogledd Cymru.

Yn y cipolwg isod, cyfunir gwybodaeth o Gynllun Sgiliau a Chyflogaeth Gogledd Cymru 2023-2025, Adolygiad o Farchnad Lafur Gogledd Cymru 2024, a’r Arsyllfa Ddata.

GWYBODAETH WERTHFAWR

Sectorau y mae galw mawr amdanynt

Mae sectorau Gogledd Cymru wedi dangos gwytnwch yng nghanol newidiadau mawr. Bydd busnesau’r dyfodol yn chwarae rhan allweddol o ran trefniadau newydd ar gyfer masnach ryngwladol, symudiadau pobl, gofynion Sero Net newydd, a newidiadau parhaus yn ymddygiad gweithwyr a chwsmeriaid yn sgil COVID-19, ac ar yr un pryd byddant yn addasu i newidiadau demograffig a thechnolegol.

Ffactorau sy’n dylanwadu ar y farchnad

  • Ysgogwyr technolegol:
    Bydd technoleg yn peri i waith newid ac addasu – o ran y gadwyn gyflenwi, y mathau o alwedigaethau, y mathau o dasgau a gaiff eu gwneud gan weithwyr, a statws cyflogaeth. Bydd angen i gwmnïau weddnewid eu prosesau busnes ac ailddiffinio’r tasgau a’r swyddi a gaiff eu gwneud gan eu gweithwyr.
  • Covid-19:
    Prinder talent i lenwi rolau penodol a cholli staff medrus. Mae disgwyliadau gweithwyr mewn perthynas â’r farchnad lafur wedi newid o ganlyniad i COVID – hyblygrwydd a gwaith tecach a mwy cynaliadwy.
  • Gwaith teg i bawb:
    Gwella cyflogau, ansawdd ac argaeledd cyflogaeth yng Nghymru. Bydd hyn hefyd yn helpu i ddenu a chadw pobl mewn sectorau sy’n cael anawsterau oherwydd prinder llafur.
  • Cynnydd mewn anghydraddoldeb:
    Oherwydd materion yn ymwneud ag anghydraddoldeb incwm, diweithdra ac anweithgarwch hirdymor, mwy o dlodi mewn gwaith a diffyg cynnydd mewn cyflogau, bydd rhai grwpiau o weithwyr yn fwy tebygol o ddioddef anfantais yn y farchnad lafur. Mae’r bobl hyn yn cynnwys merched, oedolion ifanc, gweithwyr hŷn, pobl ag anableddau a phobl o gefndiroedd Du a lleiafrifoedd ethnig eraill.
  • Newid hinsawdd:
    Pwysigrwydd addysg a sgiliau ar gyfer creu gweithlu sero net. Bydd gweithgarwch economaidd newydd yn esgor ar alwedigaethau newydd, a bydd angen cyflwyno newidiadau i alwedigaethau sy’n bodoli eisoes er mwyn eu gwneud yn fwy ‘gwyrdd’. Yn y ddau achos, bydd angen sgiliau, cymwysterau a fframweithiau hyfforddi newydd, neu bydd angen mynd ati i’w diweddaru.
  • Yr argyfwng costau byw ac ynni:
    Mae’r cynnydd mewn costau ynni a biliau tanwydd yn cael effaith enfawr ar fusnesau, yn enwedig busnesau bach a chanolig yn ein rhanbarth. Hefyd, mae’n golygu bod nifer fawr o bobl sydd newydd ymddeol yn penderfynu dychwelyd i’r gweithle. Yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol, cafwyd cynnydd o 116,000 mewn gweithgarwch economaidd (pobl yn gweithio neu’n chwilio am waith) ymhlith pobl dros 50 oed yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Roedd mwy na hanner y cynnydd hwn ymhlith dynion dros 65 oed.
  • Ysgogwyr cymdeithasol a diwylliannol:
    Strwythur y boblogaeth sy’n heneiddio: Rhagwelir y ceir cynnydd yn nifer y bobl dros 65 oed ochr yn ochr â gostyngiad yn y boblogaeth oedran gweithio yng Ngogledd Cymru.
  • Ysgogwyr gwleidyddol:
    Mae Brexit a cholli cyllid Ewropeaidd yn arwain at heriau i farchnadoedd llafur, masnachwyr a’r system sgiliau.
  • Ysgogwyr Rhanbarthol:
    Nod Bargen Twf y Gogledd yw adeiladu economi fwy llewyrchus, cynaliadwy a gwydn yng Ngogledd Cymru trwy greu mwy na 3,800 o swyddi uchel eu gwerth ynghyd a gwerth £1 biliwn mewn buddsoddiadau.

 

The gateway to opportunities in North Wales

Cwestiynau cyffredin

A oes gennych gwestiynau o hyd? Anfonwch neges at ein tîm: helo@portal-gogledd.cymru.