NEWYDDION

Lansiad Gofod Cydweithio Hwb Creadigol newydd yn Wrecsam

Rees Brown - Skills Portal Project Manager

Rees Brown

12.05.2026

Bydd y gofod cydweithio Hwb Creadigol newydd (i fyny’r grisiau yn Yr Hen Lyfrgell), ynghyd â chynllun aelodaeth, yn lansio o fis Mehefin.

Cyn lansio’r cynllun aelodaeth, cynhelir diwrnodau ‘blasu’ ym mis Mai ar gyfer unrhyw un sydd eisiau rhoi cynnig ar y gofod a dod i gyfarfod â busnesau eraill o’r un anian yn y diwydiannau creadigol.

Gofod Cydweithio – Diwrnodau ‘Blasu’ Mai

Bydd yr Hwb Creadigol ar agor ar gyfer tri diwrnod ‘blasu’ cydweithio ar y dyddiadau canlynol:

Mae’r rhain yn basys undydd AM DDIM ar gyfer y gofod cydweithio – fodd bynnag, mae nifer y lleoedd yn gyfyngedig. Mae cofrestru’n hanfodol drwy’r dolenni uchod.

Aelodaeth Hwb Creadigol

Bydd cynllun aelodaeth Hwb Creadigol yn lansio ar 1 Mehefin. Bydd hwn yn raglen aelodaeth fisol sy’n rhoi i aelodau ddefnydd unigryw o ofod cydweithio’r Hwb, mynediad at system archebu desgiau yn ogystal â gostyngiadau, digwyddiadau cymdeithasol misol i aelodau, a’r defnydd o ofod yr Hwb ar gyfer digwyddiadau ac arddangosfeydd.

Bydd rhagor o wybodaeth am y cynllun aelodaeth a sut i ymuno ar gael yn ystod diwrnodau blasu mis Mai neu yn y prynhawn agored ddydd Mercher 27 Mai.

Prynhawn agored Aelodaeth Hwb Creadigol / Gofod Cydweithio – Dydd Mercher 27 Mai (12yp i 5yp)

Bydd hwn yn brynhawn galw heibio AM DDIM i unrhyw un sydd â diddordeb yn ein cynllun aelodaeth cydweithio ond nad yw’n gallu mynychu diwrnod blasu ym mis Mai neu sydd eisiau galw heibio i ddysgu mwy am ddod yn aelod a chael golwg ar y gofod.

BLE: Gofod Cydweithio Hwb Creadigol, i fyny’r grisiau yn Yr Hen Lyfrgell, Sgwâr y Frenhines LL11 1AT

Gellir dod o hyd i fwy o wybodaeth ar ein tudalen Instagram: @Theoldlibrarywxm

Am unrhyw gwestiynau neu ragor o wybodaeth am unrhyw un o’r uchod, cysylltwch drwy ein ffurflen ymholiadau ar-lein ar ein gwefan:

🌐 Yr Hen Lyfrgell

Neu drwy e-bost:

📧 theoldlibrary@wrexham.gov.uk