Prentisiaethau

Mae prentisiaethau yn eich galluogi i ennill cyflog wrth i chi ddysgu, a rhoi hwb i’ch enillion gydol oes.

Beth yw prentisiaethau?

Mae prentisiaethau yng Nghymru yn agored i unrhyw un dros 16 oed, neu 18 oed ar gyfer Prentisiaethau Gradd, ac yn cyfuno hyfforddiant ymarferol mewn swydd gydag astudiaeth.

Fel prentis byddwch yn:

  • Ennill cyflog ac yn cael tâl gwyliau
  • Ennill cymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol
  • Datblygu sgiliau penodol i’r swydd
  • Ennill profiad ymarferol
  • Gweithio ochr yn ochr â staff profiadol
Work experience student talking with manager

Yr hyn sy’n ddisgwyliedig

Pecyn cymorth llawn, wedi’i deilwra i’ch anghenion, yn cynnwys:

  • Amser i astudio, un diwrnod yr wythnos fel rheol.
  • Dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg neu’r Saesneg, mae’r prentisiaethau i’w cael yn ddwyieithog.
  • Mae’r prentisiaethau’n hygyrch, gyda chymorth ar gael i unigolion ag anawsterau dysgu neu anableddau.
Two florists

Lefelau prentisiaethau

Lefel 2 | Cyfwerth â 5 TGAU

Ar gael mewn Amaeth a’r Amgylchedd, Gweinyddu Busnes, Technoleg Ddigidol, Bwyd a Diod, Gwallt a Harddwch, Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Rheoli Gwastraff ac Ailgylchu, a Manwerthu a Lletygarwch.

Prentisiaethau gwag

Dod o hyd i brentisiaeth

Mae modd dod yn brentis ar unrhyw adeg o’ch gyrfa. Dewch o hyd i wahanol brentisiaethau yng Ngogledd Cymru ac ymgeisiwch amdanynt.