Datganiad Hygyrchedd
Mae’r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i https://portal-gogledd.cymru/cy/.
Caiff y wefan hon ei chynnal gan Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru (Uchelgais Gogledd Cymru). Rydym am i gynifer â phosibl o bobl allu defnyddio’r wefan hon. Er enghraifft, mae hynny’n golygu y dylech allu:
- newid lliwiau, lefelau cyferbynnedd a ffontiau gan ddefnyddio gosodiadau eich porwr neu ddyfais
- chwyddo’r sgrin hyd at 400% heb amharu ar y testun
- llywio rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd neu feddalwedd adnabod lleferydd
- gwrando ar y rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio darllenydd sgrin (yn cynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a
VoiceOver)
Rydym ni hefyd wedi gwneud testun y wefan mor syml â phosibl i’w ddeall. Mae gan AbilityNet gyngor ar sut i wneud eich dyfais yn haws i’w defnyddio os oes gennych chi anabledd.
Pa mor hygyrch yw’r wefan
Gwyddom fod rhai rhannau o’r wefan nad ydynt yn gwbl hygyrch:
- Mae yna rai lluniau sy’n cynnwys testun ar y safle
- Mae’r safle yn cynnwys cyfuniadau 3ydd parti nad oes ganddynt rolau aria manwl gywir yn eu lle ar y dolenni.
Adborth a gwybodaeth gyswllt
Os byddwch yn dod ar draws unrhyw broblemau nad ydynt wedi’u rhestru ar y dudalen hon neu’n credu nad ydym yn bodloni
gofynion hygyrchedd, cysylltwch â: helo@portal-gogledd.cymru.
Os byddwch angen gwybodaeth ar y wefan hon mewn fformat gwahanol fel PDF hygyrch, print
bras, hawdd ei ddarllen, recordiad sain neu braille:
- e-bostiwch: helo@portal-gogledd.cymru
Byddwn yn ystyried eich cais ac yn cysylltu â chi mewn 5 diwrnod.
Gweithdrefn orfodaeth
Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’). Os byddwch yn anfodlon gyda’r ffordd rydym yn ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS).
Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon
Mae Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru wedi ymrwymo i wneud ei wefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018.
Statws cydymffurfiaeth
Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n rhannol â safon AA fersiwn 2.2 y Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We, oherwydd y diffygion cydymffurfiaeth a restrir isod.
Cynnwys anhygyrch
Mae’r cynnwys a restrir isod yn anhygyrch am y rhesymau canlynol.
Diffyg cydymffurfiaeth â’r rheoliadau hygyrchedd
- Mae yna rai lluniau a graffeg ar y safle sy’n cynnwys testun ac felly nid ydynt yn hygyrch drwy ddefnyddio meddalwedd darllenydd sgrin. Nid yw hyn yn bodloni Canllaw 1.4.5 WCAG Delweddau o Destun (Safon AA). Rydym wedi lliniaru hyn drwy gynnwys testun arall sy’n disgrifio’r ddelwedd lle bo’n bosibl. Rydym yn bwriadu dileu’r delweddau hyn yn raddol erbyn mis Rhagfyr 2025.
- Mae’r safle’n defnyddio RECAPTCHA i ddiogelu’r cyflwyniadau ffurflen ac atal spam. Nid yw’r cyfuniad rôl/label aria cywir wedi’i sefydlu ar y ddolen gyflym i amodau a thelerau RECAPTCHA. Mae’r ddolen yn parhau’n hygyrch i ddefnyddwyr bysellfwrdd a darllenydd sgrin ond gallai’r iaith tagio fod yn ddryslyd. Nid oes modd i ni newid yr iaith tagio gan mai RECAPTCHA sy’n ei darparu ond byddwn yn adolygu’r mater hwn erbyn mis Rhagfyr 2025.
- Mae’r is-ddewislenni llywio yn cynnwys eitemau rhestr cudd pan fo’r dudalen yn llwytho, serch hynny mae’r cynhwysydd sy’n amgylchynu’r eitemau rhestr hynny yn weledol i ddarllenwyr sgrin. Yn ystod y cyfnod prawf nid oedd hyn yn ymddangos ei fod yn effeithio ar ymarferoldeb ond gallai achosi dryswch i rai technolegau darllenydd sgrin ac nid yw’n bodloni Canllaw 1.3.1 WCAG Gwybodaeth a Chysylltiadau (Safon A). Byddwn yn adolygu’r mater hwn erbyn mis Rhagfyr 2025.
Baich anghymesur
Amherthnasol. Nid ydym yn honni bod unrhyw rai o’n materion hygyrchedd yn llwyth anghymesur i’w ddatrys.
Cynnwys nad yw o fewn cwmpas y rheoliadau hygyrchedd
PDFs a dogfennau eraill
Nid oes gofyn, dan y rheoliadau hygyrchedd, i ni ddatrys y problemau sy’n gysylltiedig â dogfennau PDF a dogfennau eraill a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2018 os nad ydynt yn hanfodol i ddarparu ein gwasanaethau.
Paratoi’r datganiad hygyrchedd hwn
Paratowyd y datganiad hwn ar 2 Rhagfyr 2024. Cafodd ei adolygu ddiwethaf ar 2 Rhagfyr 2024. Cafodd y wefan ei phrofi ddiwethaf ar 2 Rhagfyr 2024 yn erbyn safon AA 2.2 WCAG.
Cynhaliwyd y prawf gan Tropic. Cafodd y tudalennau â’r nifer fwyaf o ymweliadau eu profi â llaw yn defnyddio bysellfwrdd a thrwy ddefnyddio’r offer profi awtomataidd canlynol.