Dysgu Seiliedig ar Waith
Dysgwch sut all prentisiaethau a phrofiad gwaith roi hyfforddiant ymarferol a chefnogaeth werthfawr i chi a’ch gweithlu ar gyfer y dyfodol.
Prentisiaethau
Mae prentisiaethau yng Nghymru yn cael eu hariannu’n llawn gan Lywodraeth Cymru ac maent ar gael i fusnesau o unrhyw faint neu sector. Yng Nghymru, nid yw cyflogwyr yn rheoli cyfrifon ardoll, ac mae’r holl gostau hyfforddi’n cael eu hariannu’n uniongyrchol drwy ddarparwyr cymeradwy.
Mae prentisiaethau ar gael i staff newydd neu bresennol. I fod yn gymwys, rhaid i brentis:
- Fyw a/neu weithio yng Nghymru a bod yn 16 oed neu’n hŷn
- Treulio o leiaf 51% o’u horiau gwaith yng Nghymru
- Bod wedi’u cyflogi drwy gydol y brentisiaeth
Y cyflogwr sy’n gyfrifol am dalu cyflog y prentis, gyda chynigion ariannol ar gael ar gyfer cyflogi pobl ag anabledd.
Manteision prentisiaeth
- Gostyngiad mewn costau: Ffordd fforddiadwy o recriwtio a hyfforddi.
- Cynhyrchiant uwch: Sgiliau newydd a syniadau ffres.
- Gwell cadw staff: Mae staff yn teimlo’n werthfawr ac yn aros yn hirach.
- Twf busnes: Mae pobl â sgiliau’n gyrru perfformiad.
- Cau bylchau sgiliau: Hyfforddiant wedi’i deilwra i’ch anghenion.
Byddwch yn barod ar gyfer y dyfodol a meithrin y dalent ar gyfer anghenion yfory, gan gynnwys sgiliau digidol a phrentisiaethau digidol.
Lefelau prentisiaethau
Prentisiaeth sylfaen
Prentisiaeth
Prentisiaeth Uwch
Gradd-brentisiaeth
Lefel 2 | Cyfwerth â 5 TGAU
Ar gael mewn Amaeth a’r Amgylchedd, Gweinyddu Busnes, Technoleg Ddigidol, Bwyd a Diod, Gwallt a Harddwch, Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Rheoli Gwastraff ac Ailgylchu, a Manwerthu a Lletygarwch.
Prentisiaeth sylfaen
Prentisiaeth
Prentisiaeth Uwch
Gradd-brentisiaeth
Darparwyr Prentisiaethau yng Ngogledd Cymru



