Deall Lefelau Sgiliau Digidol yn y Gweithle
Fel Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Gogledd Cymru (NWRSP), rydym yn ymgysylltu’n rheolaidd â chyflogwyr ar draws sectorau allweddol ein rhanbarth. Un o’r heriau mwyaf cyffredin a glywn yw hyn: “Rydym yn gwybod bod sgiliau digidol yn bwysig—ond sut allwn ni wybod ble mae ein tîm yn sefyll?”
Dyna pam y crëwyd y Pecyn Cymorth Sgiliau Digidol—mae’n adnodd ymarferol, wedi’i lywio gan gyflogwyr, i helpu busnesau asesu lefelau sgiliau digidol a chynllunio ar gyfer twf.
Beth yw’r lefelau gwahanol
Sgiliau Digidol Sylfaenol
Sgiliau Digidol Canolradd
Sgiliau Digidol Uwch
Mae’r rhain yn ffurfio sylfaen llythrennedd digidol ac yn hanfodol ar gyfer tasgau bob dydd yn y gweithlu modern.
Mae’r sgiliau hyn yn cynnwys:
- E-bost: Llunio, anfon a rheoli e-byst yn effeithiol.
- Microsoft Office: Defnyddio rhaglenni fel Word, Excel, a PowerPoint i greu dogfennau, taenlenni a chyflwyniadau.
- Llywio’r Rhyngrwyd: Chwilio’r we, pori gwefannau, defnyddio peiriannau chwilio, a deall hanfodion diogelwch ar y rhyngrwyd.
Sgiliau Digidol Sylfaenol
Sgiliau Digidol Canolradd
Sgiliau Digidol Uwch
Pam mae sgiliau digidol yn bwysig
Mae sgiliau digidol yn edrych yn wahanol ym mhob diwydiant:
- Yn y diwydiant adeiladu, gall olygu defnyddio cynlluniau digidol neu feddalwedd rheoli prosiectau.
- Yn y gofal iechyd a chymdeithasol, gall gynnwys rheoli cofnodion digidol neu ddefnyddio technoleg gynorthwyol.
- Yn y sector creadigol a digidol, mae’n ymwneud â chreu cynnwys, offer dylunio, a chodio.
- Yn y diwydiant bwyd ac amaeth, gall olygu defnyddio offer â gallu GPS neu gadwyni cyflenwi digidol.
Drwy fapio sgiliau digidol, gall cyflogwyr alinio galluoedd digidol â nodau busnes.
Deallusrwydd Artiffisial (AI)
Wrth i dechnoleg ddatblygu, mae Deallusrwydd Artiffisial (AI) yn ail-lunio’r gweithle, ac mae’n rhaid i fusnesau addasu i aros yn gystadleuol. Gyda 75% o gwmnïau’n bwriadu integreiddio AI yn ystod y pum mlynedd nesaf, mae buddsoddi mewn datblygiad y gweithlu yn hanfodol.
Er y bydd AI yn gyrru creu swyddi net, bydd hefyd yn newid rolau swyddi, gan olygu y bydd angen i weithwyr ddatblygu sgiliau newydd.
Sut mae’r Pecyn Cymorth yn Helpu
Gall y Pecyn Cymorth Sgiliau Digidol helpu i:
- Nodi bylchau sgiliau yn eich tîm
- Archwilio opsiynau hyfforddi sy’n cyd-fynd â nodau eich busnes
- Cysylltu â darparwyr lleol i drafod atebion wedi’u teilwra
- Cael mynediad at gyllid drwy fentrau fel y Rhaglen Sgiliau Hyblyg neu Brentisiaethau
Mae wedi’i gynllunio i fod yn syml, yn hyblyg, ac wedi’i deilwra i anghenion cyflogwyr yng Ngogledd Cymru.