Dysg greadigol ac arloesol i bawb
Rydym yn helpu sefydliadau i gyflawni eu hamcanion busnes drwy:
- Nodi bylchau sgiliau
- Hyfforddiant ar-lein a wyneb yn wyneb
- Datblygu platfform a sgiliau digidol
- Rheoli doniau; a chynllunio olyniaeth
Gwnawn hyn drwy weithio fel partner strategol gyda busnesau o bob maint ac ar draws bob sector. Mae hyn yn ein helpu ni i ddeall eu huchelgeisiau o ran twf a theilwra ein gwasanaethau er mwyn bodloni eu hanghenion unigol.
Ar gyfer unigolion:
P’un a ydych ond megis dechrau eich gyrfa neu eisoes mewn swydd lle rydych yn awyddus i ddatblygu – mae modd cyflawni eich gyrfa ddelfrydol gyda Hyfforddiant Educ8, sy’n cynnig ystod o gymwysterau a all eich darparu â sgiliau ymarferol a gwybodaeth hanfodol mewn unrhyw beth, o ofal plant a thrin gwallt i farchnata digidol a rheoli prosiect.
Ar gyfer cyflogwyr:
Yn un o ddeg darparwr hyfforddiant yn unig sydd wedi’u contractio gan Lywodraeth Cymru, gallwn gynnig hyfforddiant rhad ac am ddim, wedi’i ariannu’n llawn a chymorth gyda recriwtio staff newydd. Rydym yn frwd dros gefnogi cwmnïau o Gymru a’ch cynorthwyo i gyrchu’r cyllid sydd ar gael.
Beth sydd ar gael
Cefnogaeth ar gyfer Unigolion
Cefnogaeth ar gyfer Busnesau
Hyfforddiant a chyrsiau byr
Cymorth yn y Gwaith
Cymorth i ddatblygu ac uwchsgilio unigolion sydd mewn gwaith
Prentisiaethau
Cefnogaeth ar gyfer Unigolion
Cefnogaeth ar gyfer Busnesau