Mae eich dyfodol yn dechrau yma
Yn dilyn cyfuniad Coleg Glannau Dyfrdwy, Coleg Iâl, Coleg Wrecsam, Coleg Llysfasi a Choleg Llaneurgain, mae Coleg Cambria yn un o golegau blaenllaw’r DU.
Mae Cambria, sy’n ymestyn dros chwe safle yng Ngogledd-ddwyrain Cymru, yn cynnig ystod eang iawn o gyrsiau, gan gynnwys Safon Uwch, TGAU, cyrsiau ymarferol, Cymraeg i Oedolion ac Addysg Uwch. Gan weithio mewn partneriaeth â thros 1,000 o gyflogwyr, mae’r Coleg hefyd yn cynnig nifer o gyfleoedd prentisiaeth, gyda chysylltiadau cryf â chyflogaeth leol.
Mae Cambria yn gweithio mewn partneriaeth â rhai o brifysgolion blaenllaw’r DU i gynnig cyrsiau gradd, gan gynnwys, Prifysgol Aberystwyth, Prifysgol Bangor a Phrifysgol Wrecsam. Ymhlith cyfleusterau’r Coleg mae ysgol fusnes, canolfan gofal anifeiliaid, fferm 1,000 o erwau, bwyty, siop flodau, canolfannau rhagoriaeth ar gyfer peirianneg, salonau hyfforddi a stadiwm athletau – Ewch i weld Canolfan Brifysgol Cambria.
Beth sydd ar gael
Cefnogaeth ar gyfer Unigolion
Cefnogaeth ar gyfer Busnesau
Cymorth i ddod o hyd i swydd
(ysgrifennu CV, ceisiadau, sgiliau cyfweld, mentora etc.)
Cymorth yn y Gwaith
Cymorth i ddatblygu ac uwchsgilio unigolion sydd mewn gwaith
Hyfforddiant a chyrsiau byr
Addysg bellach
cymwysterau NVQ, Safon Uwch, BTEC a chyrsiau sylfaen
Prentisiaeth
Darparwr Prentisiaethau Cymeradwy
Prentisiaethau gradd
Darparwr Prentisiaethau Cymeradwy
Dysgu Oedolion yn y Gymuned
Lleoliadau / Profiad Gwaith
(Taledig neu heb dâl)
Addysg Uwch
Lefel Prifysgol / Mynediad i AU
Cefnogaeth ar gyfer Unigolion
Cefnogaeth ar gyfer Busnesau