Creu tîm cymwys a brwdfrydig ar gyfer eich busnes.

Mae’r tîm Cambria ar gyfer Busnes yn darparu un pwynt cyswllt i gyflogwyr, gan helpu i nodi eich anghenion hyfforddiant, unrhyw gyllid sydd ar gael i chi a chefnogi busnesau i fedi’r manteision posibl a ddaw o fuddsoddi mewn hyfforddiant. Mae’r tîm hefyd yn gweithio’n agos â’n Siop Swyddi a’n timau profiad gwaith, er mwyn sicrhau bod cyflogwyr yn cael cymorth gyda hysbysebion recriwtio a chysylltiad â’n myfyrwyr, er mwyn cefnogi olyniaeth eich busnes ac anghenion cynllunio eich gweithlu yn y dyfodol.

P’un a ydych yn awyddus i uwchsgilio gweithwyr presennol, hyfforddi staff newydd neu ddatblygu sgiliau arwain a rheoli, mae gennym ystod eang o gyrsiau, hyfforddiant a phecynnau pwrpasol ar gael.

Mae ein hystod eang o hyfforddiant datblygiad proffesiynol yn cynnwys:

  • ILM: Arweinyddiaeth, Rheolaeth, a Hyfforddi a Mentora
  • AAT: Cyllid a Chyfrifeg
  • CIPD: Adnoddau Dynol
  • PRINCE2: Rheoli Prosiectau
  • IOSH & NEBOSH: Iechyd a Diogelwch

Bydd y tîm yn teilwra’r gwasanaethau i gyd-fynd â’ch anghenion, cyllideb ac amcanion unigol. Mae ganddynt gyfoeth o wybodaeth traws-diwydiant, y maent yn ei defnyddio i helpu i hysbysu a chynghori busnesau ar y datrysiadau hyfforddiant gorau sydd ar gael a’r ffynonellau cyllid posibl.

Beth sydd ar gael

Hyfforddiant a chyrsiau byr

Prentisiaethau
Darparwr Prentisiaethau Cymeradwy

Cymorth Recriwtio

Cyngor a chymorth i fusnesau a mentrau bach a chanolig

Prentisiaethau gradd
Darparwr Prentisiaethau Cymeradwy

Lleoliadau / Profiad Gwaith
Taledig neu heb dâl

Quote from Dave Evans | Swyddog Hyfforddi a Datblygu |  Magellan Aerospace

Rydym yn hapus iawn gyda’r gwasanaeth a’r gefnogaeth a gawsom gan Cambria. Mae’r tîm yno wedi ei gwneud yn hawdd i sicrhau bod y profiad yn un difyr a diddorol.

Dave Evans | Swyddog Hyfforddi a Datblygu | Magellan Aerospace

Background Image

Eisiau dysgu mwy?

Cysylltu yn uniongyrchol
Background Image