ADNODDAU AR GYFER CYFLOGWYR

Cymorth Recriwtio Am Ddim

Rees Brown - Skills Portal Project Manager

Rees Brown

24.11.2024

Mae gan ddarparwyr cyflogadwyedd yng Ngogledd Cymru dimau ymroddedig sy’n gweithio ochr yn ochr â chi i helpu i geisio cronfeydd amrywiol o gyflogeion newydd posibl, gyda chymorth ychwanegol ar gael i atgyfnerthu sgiliau a goresgyn unrhyw rwystrau i sicrhau eu bod yn bwrw iddi o’r eiliad cyntaf.

Caiff rhaglenni cyflogadwyedd eu dylunio i gefnogi unigolion sydd, yn aml, dan anfantais. Cânt gymorth i’w helpu i ddod o hyd i gyflogaeth a’i chynnal.

Rhaglenni yn cynnwys:

  • Twf Swyddi Cymru+ (16-19 oed)
  • Cymunedau am Waith a Mwy (20+ oed)
  • ReAct+
  • Cynllun Ailddechrau

Cymorth i Gyflogwyr:

  • Timau Lleol: Gall cyflogwyr geisio cymorth gyda recriwtio drwy dimau sydd wedi’u lleoli yn lleol gyda staff pwrpasol ar gyfer ymgysylltu â chyflogwyr.
  • Cymorth Arbenigol: Cymorth i oresgyn rhwystrau rhag cyflogaeth, yn cynnwys hyfforddiant, adnoddau, dillad, ac i dalu am ofal plant a chostau teithio.
  • Cymorth gyda Recriwtio: Mae timau ymgysylltu â chyflogwyr yn cydweithio â chyflogwyr i baru sgiliau cyfranogwyr ag anghenion busnes drwy ffeiriau swyddi a diwrnodau recriwtio, ac yn trefnu cyfweliadau neu dreial gwaith.

Manteision i Fusnesau:

  • Cymorthdaliadau ar gyfer Cyflogau: Yn dibynnu ar gymhwysedd ac argaeledd, gall rhai darparwyr gefnogi gyda chostau cyflog neu hyfforddiant.
  • Effaith Gymdeithasol: Drwy benodi drwy raglenni cyflogadwyedd, mae busnesau yn helpu’r rheini sy’n ei chael hi’n anodd dod o hyd i waith.
  • Gweithlu Medrus: Bydd cyflogwyr yn cael mynediad at unigolion brwd sy’n awyddus i fanteisio ar gyfleoedd gwaith.
Quote from Perchennog ar Fusnes Bach

Mae dod o hyd i staff drwy ddarparwyr cyflogadwyedd lleol wedi gosod gwreiddiau fy musnes yn y gymuned, ac mae wedi fy nghaniatáu i geisio cronfa newydd o gyflogeion posibl.

Perchennog ar Fusnes Bach