Cydweithio â byd addysg

Mae’n hollbwysig fod diwydiannau’n chwarae rhan mewn addysg, er mwyn pontio’r bwlch rhwng dysgu academaidd a sgiliau ymarferol. Drwy gydweithio â sefydliadau addysg, gall busnesau helpu i ddatblygu gweithlu’r dyfodol, gan sicrhau bod gan fyfyrwyr y sgiliau sydd eu hangen yn y farchnad swyddi.
Mae’r Cwricwlwm newydd i Gymru wedi’i gynllunio fel bod Addysg Gyrfaoedd a Phrofiadau Byd Gwaith wedi’u hymgorffori yn yr addysg o ddydd i ddydd mewn ysgolion, i gynnig profiadau a dealltwriaeth newydd o lwybrau gyrfa a chyfleoedd ym mhob sector.
Sut all eich busnes gymryd rhan?
Cynnig profiad gwaith: Gall cyflogwyr gydweithio ag ysgolion i gynnig cyfleoedd am brofiad gwaith. Yn ogystal â helpu myfyrwyr i ennill sgiliau ymarferol, mae hyn hefyd yn cyd-fynd ag amcanion Addysg Gyrfaoedd a Phrofiadau Byd Gwaith. Drwy wneud hyn, gall cyflogwyr ysbrydoli cenedlaethau’r dyfodol a helpu i greu cronfa o dalent leol ar gyfer y tymor hir.
Darlithoedd Gwadd a Gweithdai Rhannwch eich arbenigedd drwy roi darlithoedd gwadd neu gynnal gweithdai. Bydd hyn yn gyfle i fyfyrwyr glywed am brofiadau o’r byd go iawn ac yn cyfoethogi eu profiad dysgu.
Ffeiriau Gyrfaoedd a Diwrnodau Agored: Cymerwch ran mewn ffeiriau gyrfaoedd a diwrnodau agored i arddangos eich busnes a’r cyfleoedd sydd ar gael. Mae hyn yn helpu myfyrwyr i ddeall llwybrau gyrfa posib a’r sgiliau sydd eu hangen.
Rhaglenni Mentora: Gallech sefydlu rhaglenni mentora lle mae gweithwyr yn arwain a chefnogi myfyrwyr. Mae hyn yn meithrin cysylltiad rhwng y diwydiant a’r byd addysg, gan gynnig cyngor a chyfleoedd rhwydweithio gwerthfawr i fyfyrwyr.
Prosiectau ar y Cyd Gallech weithio mewn partneriaeth ag ysgolion a cholegau ar brosiectau lle mae myfyrwyr yn gweithio ar heriau busnes go iawn. Bydd y profiad ymarferol hwn yn amhrisiadwy o ran eu datblygiad.
Rolau Cynghori: Ymunwch â byrddau neu bwyllgorau cynghori er mwyn cynnig mewnbwn ynghylch datblygiadau i’r cwricwlwm, gan sicrhau bod rhaglenni addysgol yn cyd-fynd ag anghenion y diwydiant.
Eisiau cymryd rhan? Dysgwch fwy am gydweithio ag ysgolion | Gyrfa Cymru
Mae cyfleoedd i ddysgwyr siarad gyda chyflogwyr lleol yn help mawr i’w grymuso i feddwl am eu dyfodol.
Athro/Athrawes Ysgol Uwchradd ar Ynys Môn