Gwella dyfodol pobl
Sefydlwyd Grŵp Llandrillo Menai yn 2012 wedi i Goleg Llandrillo, Coleg Menai a Choleg Meirion-Dwyfor gyfuno. Mae’n cyflogi 2,000 o staff ac yn cyflwyno cyrsiau i oddeutu 21,000 o fyfyrwyr, yn cynnwys dros 1,500 o fyfyrwyr addysg uwch, ledled Ynys Môn, Conwy, Sir Ddinbych a Gwynedd.
Nod y Grŵp yw cefnogi economi Gogledd Cymru drwy gyfarparu pobl leol â’r sgiliau a’r cymwysterau sydd eu hangen i sicrhau bod y rhanbarth yn gystadleuol ac yn llwyddiannus. Mae’r ystod eang o gyrsiau, y profiadau dysgu o safon uchel, y cyfleusterau o’r radd flaenaf a’r staff dawnus sydd gan y Grŵp oll yn cyfrannu tuag at gyflawni’r nodau hyn.

Beth sydd ar gael
Cefnogaeth ar gyfer Unigolion
Cefnogaeth ar gyfer Busnesau
Cymorth i ddod o hyd i swydd
ysgrifennu CV, ceisiadau, sgiliau cyfweld, mentora etc.
Cymorth yn y Gwaith
Cymorth i ddatblygu ac uwchsgilio unigolion sydd mewn gwaith
Hyfforddiant a chyrsiau byr
Addysg Bellach
E.e. cymwysterau NVQ, Safon Uwch, cyrsiau BTEC a chyrsiau sylfaen
Addysg Uwch
Lefel Prifysgol / Mynediad i AU
Prentisiaethau
Darparwr Prentisiaethau Cymeradwy
Prentisiaethau gradd
Darparwr Prentisiaethau Cymeradwy
Cymorth i ddod o hyd i gyfleoedd gwirfoddoli / profiad gwaith.
(Â thal neu heb dâl)
Dysgu Oedolion yn y Gymuned
Cefnogaeth ar gyfer Unigolion
Cefnogaeth ar gyfer Busnesau





