Prentisiaid Lleol i Helpu Grymuso Dyfodol Niwclear yn Wylfa
Mae Rolls-Royce SMR wedi dechrau’r broses o recriwtio ei brentisiaid cyntaf i weithio’n agos at Wylfa ar Ynys Môn, Gogledd Cymru – safle Adweithyddion Modiwlaidd Bychain (SMR) cyntaf Ewrop.
Bydd tua 10 o brentisiaid yn ymuno â thîm Diogelwch a Materion Rheoleiddiol y cwmni ar adeg hynod gyffrous i Rolls-Royce SMR a diwydiant niwclear y DU wrth i’r gwaith ddechrau ar gyflawni’r tri uned gyntaf yn Wylfa, o dan gontract gyda Great British Energy – Nuclear. Mae pob prosiect niwclear llwyddiannus angen tîm cryf i sicrhau ei fod yn bodloni’r safonau uchaf o ddiogelwch a materion rheoleiddiol.
Bydd y prentisiaid sy’n cael eu recriwtio nawr yn chwarae rhan bwysig wrth drawsnewid y ffordd y mae prosiectau niwclear yn cael eu cyflwyno drwy dechnoleg niwclear brofedig, modiwleiddio a dull ‘adeiladu mewn ffatri’.
Dywedodd Mark Salisbury, Pennaeth Materion Rheoleiddiol Rolls-Royce SMR:
“Mae diogelwch, sicrwydd, diogelu a gwarchod yr amgylchedd wrth wraidd popeth a wnawn yn Rolls-Royce SMR. Mae dechrau eich gyrfa ym maes niwclear gyda phrentisiaeth mewn Diogelwch a Materion Rheoleiddiol yn gyfle i weithio ochr yn ochr ag arbenigwyr blaenllaw ym maes niwclear, diogelwch a rheoleiddio a chyfrannu at ddarpariaeth ddiogel ein technoleg SMR.”
Wedi’u lleoli yng Ngholeg Menai, Llangefni, bydd y prentisiaethau’n cynnwys cymhwyster Peirianneg Lefel 3 wedi’i ategu gan brofiad ymarferol go iawn a hyfforddiant mewnol.
Yn gynharach eleni, llofnododd Rolls-Royce SMR gontract gyda Great British Energy – Nuclear i ddechrau gweithgareddau dylunio a chyflawni safle-benodol ar gyfer adweithyddion modiwlaidd bychain cyntaf y DU. Mae contract gwaith cynnar gyda chwmni ynni Tsiec ČEZ hefyd wedi’i gytuno i symud ymlaen â thrwyddedu, caniatáu a dyluniad safle-benodol ar gyfer defnyddio ar safle Temelín, gan atgyfnerthu safle Rolls-Royce SMR fel arweinydd SMR Ewrop.
Y tu ôl i bob system, cynnyrch neu weithrediad niwclear llwyddiannus mae tîm ymroddedig yn sicrhau’r safonau uchaf o ddiogelwch, sicrwydd a chydymffurfiaeth reoleiddiol. Dyna lle allech chi ddod i mewn.
Prentis Diogelwch a Materion Rheoleiddiol
Rydym yn chwilio am unigolion chwilfrydig a brwdfrydig i ymuno â’n tîm Diogelwch a Materion Rheoleiddiol ar raglen brentisiaeth gyffrous aml‑flwyddyn — y man cychwyn perffaith ar gyfer gyrfa yn y maes hanfodol hwn.
Byddwch yn:
✅ Ennill cymhwyster Peirianneg Lefel 3
✅ Datblygu sgiliau peirianneg craidd
✅ Cael profiad ymarferol go iawn ochr yn ochr â hyfforddiant mewnol wedi’i deilwra
✅ Datblygu i fod yn arbenigwr yn y dyfodol ym maes Diogelwch a Materion Rheoleiddiol
📍 Lleoliad: Gogledd Cymru … Noder oherwydd natur y brentisiaeth, bydd angen i chi fyw o fewn pellter cymudo i Goleg Menai, campws Llangefni.
👉 Cliciwch yma am fwy o wybodaeth ac i ddechrau eich taith
Daw’r ceisiadau i ben ar 24 Mai 2026.