NEWYDDION

Y Sectorau Allweddol ar gyfer Swyddi y Dyfodol yng Ngogledd Cymru

Rees Brown - Skills Portal Project Manager

Rees Brown

06.07.2026

Yn y dyfodol, bydd dau sector yn hanfodol i ddyfodol Gogledd Cymru, sef sgiliau digidol a sero net.

Trawsnewid Digidol

Mae’r sector yma’n datblygu swyddi fel deallusrwydd artiffisial, seiberddiogelwch, neu farchnata digidol, ond mae angen gweithlu sydd gyda’r ddealltwriaeth o dechnoleg modern ar fusnesau yng Ngogledd Cymru. Mae sectorau traddodiadol sy’n gyffredin yn y rhanbarth, fel gweithgynhyrchu, twristiaeth ac amaethyddiaeth, yn dibynnu fwyfwy ar offer a sgiliau digidol ar gyfer awtomeiddio, dadansoddi data, ac ymgysylltu â chwsmeriaid. Heb weithlu gyda’r sgiliau yma, mae perygl y bydd Gogledd Cymru yn cael ei adael ar ôl mewn economi lle mae technoleg yn hollbwysig.

Ar hyn o bryd bydd angen gweithwyr ar bob sefydliad sydd â’r sgiliau digidol i gwblhau tasgau fel prosesu data, rheoli cronfeydd data, datblygu meddalwedd, a thechnolegau iechyd digidol.

Yr Her Sero Net

Mae’n debyg y bydd yr economi werdd yn dod yn un o grewyr swyddi mwyaf yr 21ain ganrif. Mae ymrwymiad Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru i gyflawni allyriadau sero-net yn gyfle sylweddol i Ogledd Cymru arwain mewn ynni adnewyddadwy, adeiladu cynaliadwy, a thrafnidiaeth carbon isel.

Mae Gogledd Cymru eisoes yn gartref i fentrau sero-net addawol, o ddatblygiad y Morlais oddi ar arfordir Ynys Cybi i brosiectau gwynt fel Awel y Môr. Bydd swyddi mewn gwynt ar y môr, hydrogen, peirianneg, adeiladu, ffermio cynaliadwy a seilwaith cerbydau trydan yn gofyn am weithlu sydd â sgiliau sero-net arbenigol. Bydd hyfforddiant yn y meysydd hyn yn hanfodol i ateb y galw cynyddol am swyddi gwyrdd wrth fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd.

Pontio’r Bwlch Sgiliau

Yr her yw sicrhau bod sgiliau digidol a sero net yn hygyrch i bawb. Rhaid i fusnesau, darparwyr addysg a llunwyr polisi gydweithio i greu llwybrau hyfforddi sy’n arfogi unigolion, pobl ifanc mewn addysg a’r rhai sy’n ddi-waith ar hyn o bryd â’r sgiliau sydd eu hangen yn y gweithlu.

Er bod Portal Sgiliau Gogledd Cymru yn anelu at bontio’r bwlch, gan ei gwneud hi’n haws dod o hyd i hyfforddiant, cyflogaeth a chyfleoedd prentisiaeth yn y sectorau hyn, mae angen mwy o waith i hyrwyddo prentisiaethau, rhaglenni uwchsgilio, a hyfforddiant dan arweiniad cyflogwyr sy’n cyd-fynd ag anghenion economi’r rhanbarth.

Mae gan ogledd Cymru’r potensial i fod yn arweinydd yn yr economïau digidol a gwyrdd – ond dim ond os ydyn ni’n gweithredu nawr. Trwy flaenoriaethu buddsoddiad mewn sgiliau digidol a net-sero, gallwn greu dyfodol sydd nid yn unig yn llewyrchus ond hefyd yn gynaliadwy.

Os ydych chi’n fusnes neu’n ddarparwr yng Ngogledd Cymru ac eisiau cymorth gyda hyn, cysylltwch â ni i drafod mwy: Portal Sgiliau GC | Cysylltwch : Portal