Mae grantiau gweithgynhyrchu Wrecsam yn rhoi hwb i 26 o brosiectau busnes lleol
Y mis hwn, mae Cyngor Wrecsam wedi dyfarnu cymorth ariannol i 26 o brosiectau drwy ei gynllun Grantiau Gweithgynhyrchu BBaCh, gyda chefnogaeth Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam.
Mae’r cynllun yn galluogi busnesau gweithgynhyrchu yn Wrecsam i wneud cais am grantiau o £5,000 hyd at £100,000 i gefnogi prynu offer, datgarboneiddio, addasiadau eiddo, a sicrhau achrediadau neu ardystiadau perthnasol.
Mae’r cynllun yn rhan o raglen ehangach Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam, sy’n cael ei gefnogi gan Lywodraethau’r DU a Chymru ac yn cael ei gydlynu gan Uchelgais Gogledd Cymru.
Derbyniwyd 51 o ddatganiadau o ddiddordeb a 35 o geisiadau llawn yn y cylch cyntaf hwn. Yn dilyn proses asesu gadarn, cymeradwywyd 26 o brosiectau gyda chyfanswm gwerth o £1,286,302.
Cystadleuol iawn
Dywedodd y Cynghorydd Mark Pritchard, Arweinydd Cyngor Wrecsam a Chadeirydd Uchelgais Gogledd Cymru:
“Mae hwn yn garreg filltir gyffrous i Wrecsam ac rwy’n falch iawn o weld y grantiau cyntaf yn cael eu dyrannu.
Bydd mentrau fel hyn yn chwarae rhan allweddol wrth yrru twf economaidd, creu swyddi o ansawdd uchel a chryfhau safle’r rhanbarth fel canolfan ar gyfer gweithgynhyrchu uwch yng Nghymru.
Mae’n gyfnod cyffrous ac hoffwn ddiolch i Lywodraethau’r DU a Chymru am eu cefnogaeth i’r Parth Buddsoddi.”
Roedd y cylch cyntaf o gyllid yn hynod gystadleuol, gyda busnesau’n gorfod dangos yn glir sut y byddai eu prosiectau’n cyfrannu at dri amcan craidd y Parth Buddsoddi:
- Creu hyd at 6,000 o swyddi newydd ar draws Sir y Fflint a Wrecsam
- Sicrhau £1 biliwn o fuddsoddiad sector preifat
- Datblygu dros 5.5 miliwn troedfedd sgwâr o ofod masnachol
Roedd hefyd yn ofynnol i ymgeiswyr ddarparu o leiaf 30% o arian cyfatebol.
Dywedodd y Cynghorydd Nigel Williams, Aelod Arweiniol dros yr Economi, Busnes a Thwristiaeth:
“Fel cyngor, rydym am helpu busnesau lleol i dyfu a llwyddo. Mae’r llwyddiant hwnnw’n creu swyddi, yn adeiladu hyder ymhlith buddsoddwyr, ac yn cryfhau enw da Wrecsam fel lle i wneud busnes.
Mae’r Parth Buddsoddi yn rhoi cyfle gwych i ni gyflymu twf yn y sector gweithgynhyrchu, a dim ond y dechrau yw’r cynllun grant hwn.”
Cylch nesaf o gyllid
Bydd busnesau nad oeddent yn llwyddiannus yn y cylch cyntaf yn gallu gwneud cais eto yn ddiweddarach yr hydref, ynghyd ag ymgeiswyr newydd.
Os ydych yn rhedeg BBaCh gweithgynhyrchu yn Wrecsam ac yn chwilio am gyllid i dyfu eich busnes, nawr yw’r amser perffaith i ddarganfod mwy.