Creu llwybrau proffesiynol, cynhwysol yn y sectorau chwaraeon, hamdden ac addysg.
Mae Achieve More Training yn cynnig cymwysterau achrededig, cyfleoedd dysgu seiliedig ar waith a phrentisiaethau wedi’u hariannu’n llawn ar gyfer dysgwyr a chyflogwyr yng ngogledd Cymru. Mae’n cynnig cyrsiau perthnasol i’r diwydiant mewn Ffitrwydd, Addysg, Chwaraeon, Hamdden ac Arweinyddiaeth, gan helpu unigolion i gamu ymlaen yn eu gyrfa a chynorthwyo busnesau gyda’u hanghenion recriwtio a hyfforddi.
Mae cymorth wedi’i deilwra ar gael i gyflogwyr ddatblygu eu gweithlu, a gall dysgwyr gael budd o hyfforddiant ymarferol, hyblyg wedi’i gyflwyno gan arbenigwyr sydd â mwy na 30 mlynedd o brofiad.
Diben rhaglenni Achieve More Training yw rhoi’r sgiliau angenrheidiol i ddechreuwyr a gweithwyr proffesiynol profiadol, fel eu bod yn gallu rhagori yn y sectorau Chwaraeon, Hamdden ac Addysg.

Beth sydd ar gael
Cefnogaeth ar gyfer Unigolion
Cefnogaeth ar gyfer Busnesau
Cymorth i ddod o hyd i swydd
Ysgrifennu CV, ceisiadau, sgiliau cyfweliad, mentora etc.
Cymorth yn y Gwaith
Cymorth i ddatblygu ac uwchsgilio unigolion sydd mewn gwaith
Hyfforddiant a chyrsiau byr
Addysg Bellach
E.e. cymwysterau NVQ, Safon Uwch, cyrsiau BTEC a chyrsiau sylfaen
Prentisiaethau
Cymorth gydag Iechyd Meddwl a Llesiant
Cefnogaeth ar gyfer Unigolion
Cefnogaeth ar gyfer Busnesau






Roedd y gefnogaeth a gefais gan fy asesydd yn rhagorol. Mae dechrau swydd newydd yn gallu bod yn anodd iawn, ac mae’n bosib y byddai gwneud hynny a gweithio tuag at y math hwn o gymhwyster ar yr un pryd wedi bod yn ormod i ymdopi ag e mewn rhai achosion, ond cefais gymorth trylwyr a helaeth gan Gaynor, fel fy mod i’n gallu cwblhau aseiniadau ar gyflymder rhesymol, gan leihau’r pwysau oedd arna i yn effeithiol.
Paul | NVQ ILM Lefel 5