Tyfwch eich busnes gyda ni

Mae’r tîm Busnes@LlandrilloMenai yn cynnig amrywiaeth ddeinamig o gefnogaeth, gan gynnwys hyfforddiant proffesiynol ac arbenigol, dysgu seiliedig ar waith, a phrentisiaethau hyd at lefel gradd, wedi’i theilwra i’ch anghenion.

P’un a ydych yn chwilio am gyrsiau byr i uwchsgilio eich tîm, cyrsiau proffesiynol i ddatblygu gyrfaoedd, neu wasanaethau arbenigol i fynd i’r afael â heriau penodol i ddiwydiant, mae cymorth ar gael. Yn ogystal, mae’r Academi Ddigidol Werdd yn helpu busnesau i agor eu breichiau i gynaliadwyedd gydag arferion lleihau carbon.

Yn ychwanegol i hyn, mae gwasanaeth CAMVA yn pontio’r bwlch rhwng dysgwyr a chyflogwyr, gan gynnig y cyfle i fusnesau lleol ymgysylltu â’r genhedlaeth nesaf o weithwyr, gyda chymorth i hysbysebu a llenwi eu swyddi gwag.

Gyda hyfforddiant achrededig mewn adeiladu, peirianneg sifil, ac ôl-osod drwy Ganolfan CIST, mae Busnes@LlandrilloMenai wedi ymrwymo i hybu eich effeithlonrwydd, cynaliadwyedd, a thwf eich busnes.

Beth sydd ar gael

Hyfforddiant a Chyrsiau Byr

Prentisiaethau
Darparwr Prentisiaethau Cymeradwy

Graddau-prentisiaethau
Darparwr Prentisiaethau Cymeradwy

Cymorth Recriwtio

Gradd-brentisiaeth

Cyngor a chefnogaeth i fusnesau o bob maint
Datblygiad, sgiliau, cyngor ac arweiniad

Grantiau/Cyllid ar gael i fusnesau neu fusnesau newydd

Lleoliadau / Profiad Gwaith
(Taledig neu heb dâl)

Background Image

Eisiau dysgu mwy?

Cysylltu yn uniongyrchol
Background Image