Gyda’n gilydd, gallwn newid dy stori

Mae Cymru’n Gweithio yn cynnig cyngor a chyfarwyddyd gyrfaoedd diduedd yn rhad ac am ddim os ydych yn 16 oed neu’n hŷn.

Rydyn ni’n cynnig ystod eang o gefnogaeth gan gynnwys mynediad i hyfforddiant, uwchsgilio, cyllid, a help gydag ysgrifennu CV a thechnegau cyfweld. Mae rhaglen Cymru’n Gweithio yn cael ei chyflwyno gan Gyrfa Cymru.

Gallwch gael cymorth wyneb yn wyneb yn un o ganolfannau neu leoliadau allgymorth Gyrfa Cymru, dros y ffôn neu’n ddigidol – beth bynnag sydd orau i chi.

Gallwn eich helpu i gael swydd, gwella sgiliau drwy gyrsiau a hyfforddiant, a dod o hyd i gyfleoedd cymorth a chyllid er mwyn i chi allu newid eich stori.

Gallwn helpu os ydych:

  • Yn gadael yr ysgol neu wedi gadael yr ysgol neu fyd addysg yn ddiweddar
  • Yn newid eich gyrfa
  • Yn wynebu colli eich swydd neu wedi colli eich swydd yn ddiweddar
  • Eisiau uwchsgilio
  • Yn chwilio am swydd
  • Yn dioddef o ddiffyg hyder ac eisiau magu hyder
  • Angen help i greu eich CV neu help gyda thechnegau cyfweld
  • Angen cefnogaeth ychwanegol i oresgyn rhwystrau i waith fel problemau iechyd neu anabledd

Beth sydd ar gael

Cymorth i ddod o hyd i swydd
ysgrifennu CV, ceisiadau, sgiliau cyfweld, mentora etc.

Cymorth yn y Gwaith
Cymorth i ddatblygu ac uwchsgilio unigolion sydd mewn gwaith

Hyfforddiant a chyrsiau byr

Cymorth i ddod o hyd i gyfleoedd gwirfoddoli / profiad gwaith.
(Â thal neu heb dâl)

Dysgu Oedolion yn y Gymuned

Background Image

Eisiau dysgu mwy?

Cysylltu yn uniongyrchol
Background Image