Sut allwn ni eich helpu chi

Yn Cymunedau am Waith + Wrecsam, rydym yn darparu mentora un i un i bobl sy’n byw yn Wrecsam.
Os ydych chi’n 20 oed neu’n hŷn, yn byw yn Wrecsam ac yn ddi-waith ar hyn o bryd, yna mae ein tîm cyfeillgar ar gael i’ch helpu. Gallwn eich cefnogi ar eich taith i ddod o hyd i’ch swydd ddelfrydol.

Gallwn gynnig cymorth a chyngor yn seiliedig ar eich anghenion unigol, fel:

  • sgiliau hanfodol
  • sgiliau digidol
  • addysg a hyfforddiant
  • ysgrifennu CV a gwneud cais am swyddi
  • awgrymiadau a thechnegau ar gyfer cyfweliadau
  • cymhelliant a hyder
  • gwirfoddoli

Mae gweithio ar y cyd â chyflogwyr lleol yn hollbwysig i lwyddiant Cymunedau am Waith + Wrecsam, ac mae cymorth ar gael i helpu i lenwi’r swyddi gwag sydd gennych chi gyda phobl leol.

Beth sydd ar gael

Cymorth i ddod o hyd i swydd
Ysgrifennu CV, ceisiadau, sgiliau cyfweliad, mentora etc.

Cefnogaeth i ddechrau busnes neu fynd yn hunangyflogedig

Cymorth i ddod o hyd i gyfleoedd gwirfoddoli / profiad gwaith

Hyfforddiant a chyrsiau byr

Background Image

Eisiau dysgu mwy?

Cysylltu yn uniongyrchol
Background Image