Gwna gofal yn yrfa
Ewch i wefan Gofalwn Cymru os oes gennych chi ddiddordeb mewn gweithio ym maes gofal cymdeithasol neu ofal plant yng Nghymru. Ar y wefan, cewch gymorth a gwybodaeth ynghylch y swyddi gwahanol a geir ym maes gofal, gallwch wylio fideos a chwilio am y swyddi gwag sydd ar gael yn eich ardal chi ar hyn o bryd.
Mae Gofalwn Cymru yn cynnig rhaglenni hyfforddiant ar-lein am ddim sy’n edrych ar yr hanfodion sydd eu hangen i ddechrau gweithio ym maes gofal.
Cewch hefyd wybodaeth am y swyddi a’r llwybrau gyrfa amrywiol, y lleoliadau gofal a sut brofiad yw gweithio ym maes gofal.
Ar gyfer cyflogwyr
Mae Gofalwn Cymru yn angerddol am gefnogi cyflogwyr ym maes gofal cymdeithasol a gofal plant.
Yn Gofalwn Cymru, gallwch:
- ychwanegu eich swyddi gofal gwag ar ein porthol swyddi
- lawrlwytho deunyddiau ac adnoddau marchnata
- cefnogi cyflogai i ddod yn Llysgenhadon Gofalwn
- rannu eich stori ac ein helpu i drawsnewid dyfodol gofal.
Beth sydd ar gael
Cefnogaeth ar gyfer Unigolion
Cefnogaeth ar gyfer Busnesau
Cymorth i ddod o hyd i swydd
(ysgrifennu CV, ceisiadau, sgiliau cyfweliad, mentora etc.)
Cymorth i ddod o hyd i gyfleoedd gwirfoddoli / profiad gwaith
(Â thal neu heb dâl)
Hyfforddiant a chyrsiau byr
Cefnogaeth ar gyfer Unigolion
Cefnogaeth ar gyfer Busnesau