Yn cefnogi unigolion yng Ngwynedd i gyflawni eu llawn botensial
Mae Gwaith Gwynedd, rhaglenni cyflogadwyedd a sgiliau Cyngor Gwynedd, yn helpu pobl yng Ngwynedd i ddod o hyd i waith, ennill sgiliau a gwella eu rhagolygon swyddi. Rydym ni’n cynnig cymorth wedi’i deilwra ar gyfer chwilio am swyddi, ysgrifennu CV, paratoi ar gyfer cyfweliadau a cheisio cyfleoedd hyfforddiant.
Mae ein tîm yn gweithio’n agos â chyflogwyr lleol a darparwyr hyfforddiant i gysylltu unigolion â swyddi gwag a chyrsiau gwella sgiliau.
Rydym yn canolbwyntio ar arweiniad un i un wedi’i deilwra, gan sicrhau bod pob unigolyn yn cael y cymorth sydd ei angen arno i lwyddo yn ei daith cyflogaeth.
Yn ogystal â’r rheini sy’n awyddus i ddychwelyd i’r gwaith, gall Gwaith Gwynedd hefyd helpu’r rheini sydd mewn gwaith i atgyfnerthu eu sgiliau, sydd eisiau newid gyrfa a’r rheini sy’n gweithio ac yn wynebu tlodi. Gwiriwch a ydych chi’n gymwys am Gefnogaeth yn y gwaith

Beth sydd ar gael
Cefnogaeth ar gyfer Unigolion
Cefnogaeth ar gyfer Busnesau
Cymorth i ddod o hyd i swydd
Ysgrifennu CV, ceisiadau, sgiliau cyfweliad, mentora etc.
Cymorth yn y Gwaith
Cymorth i ddatblygu ac uwchsgilio unigolion sydd mewn gwaith
Hyfforddiant a chyrsiau byr
Cefnogaeth ar gyfer Unigolion
Cefnogaeth ar gyfer Busnesau





