Mae gan bawb botensial
Yn COPA, byddwn yn eich helpu i gyrraedd brig eich potensial a chyflawni eich nodau gyrfa a dysgu. Mae hynny oherwydd mai COPA ydyn ni, sef y gair Cymraeg am frig neu ben uchaf mynydd. Rydym yn hoff o feddwl bod ein henw’n crynhoi’r hyn a wnawn bob un dydd.
Rydym yn canfod yr hyn sy’n bwysig i chi ac yn helpu i feithrin eich potensial. Efallai eich bod yn gwybod i ble yr hoffech eich dyfodol eich tywys – neu efallai nad ydych yn siŵr pa gam y dylech ei gymryd nesaf. Naill ffordd neu’r llall, nid yw hynny o bwys i ni; rydyn ni’n awyddus i wybod yr hyn sydd o ddiddordeb i chi a’r hyn rydych yn teimlo’n gryf yn eu cylch. Beth bynnag fo hynny, rydym yma i’ch helpu i fynd ar drywydd eich nodau gyrfa a dysgu.
P’un a ydych wedi gadael yr ysgol, yn fyfyriwr sy’n awyddus i ddechrau eich gyrfa neu’n unigolyn sydd â blynyddoedd o brofiad y tu cefn i chi, byddwn yn eich helpu i feithrin a datblygu eich sgiliau. Rydym yn gweithio ledled Cymru a Lloegr, ac wrth ein bodd yn helpu pobl i ddatblygu eu gyrfaoedd.
Sut all y tîm yn COPA eich helpu i gyrraedd brig eich potensial CHI?
Beth sydd ar gael
Cefnogaeth ar gyfer Unigolion
Cefnogaeth ar gyfer Busnesau
Cymorth i ddod o hyd i swydd
(ysgrifennu CV, ceisiadau, sgiliau cyfweld, mentora etc.)
Cymorth yn y Gwaith
Cymorth i ddatblygu ac uwchsgilio unigolion sydd mewn gwaith
Cymorth i ddod o hyd i gyfleoedd i wirfoddoli / profiad gwaith
Hyfforddiant a Chyrsiau Byr
Addysg Bellach
E.e. cymwysterau NVQ, Safon Uwch, BTEC a chyrsiau sylfaen
Prentisiaethau
Darparwr Prentisiaethau Cymeradwy
Cymorth gydag Iechyd Meddwl a Llesiant
Cefnogaeth ar gyfer Unigolion
Cefnogaeth ar gyfer Busnesau





