Yma i helpu
Mae Môn CF yn elusen a chwmni sy’n eiddo i bobl Môn.
Wedi ein sefydlu’n wreiddiol i gefnogi ardaloedd mwyaf difreintiedig yr ynys, rydym wedi datblygu’n sefydliad sy’n cefnogi trigolion Môn i uwchsgilio a dod o hyd i waith.
Rydym yn darparu gwasanaethau a phrosiectau pwrpasol ar draws yr ynys sy’n gwella cyflogadwyedd leol, yn helpu i ddechrau busnesau bach, ac yn darparu hyfforddiant galwedigaethol i unigolion a gweithluoedd ym Môn.
Bellach, Môn CF yw’r sefydliad amlwg i droi ato i gael cymorth cyflogaeth, cymorth busnes, a hyfforddiant galwedigaethol.
Bob blwyddyn, rydym yn helpu miloedd o bobl i gyflawni eu potensial a chreu dyfodol mwy llewyrchus.

Beth sydd ar gael
Cefnogaeth ar gyfer Unigolion
Cefnogaeth ar gyfer Busnesau
Cymorth i ddod o hyd i swydd
Ysgrifennu CV, ceisiadau, sgiliau cyfweliad, mentora etc.
Cymorth yn y Gwaith
Cymorth i ddatblygu ac uwchsgilio unigolion sydd mewn gwaith
Cefnogaeth i ddechrau busnes neu fynd yn hunangyflogedig
Cymorth i ddod o hyd i gyfleoedd gwirfoddoli / profiad gwaith.
Hyfforddiant a chyrsiau byr
Cefnogaeth ar gyfer Unigolion
Cefnogaeth ar gyfer Busnesau






Diolch i Môn CF, llwyddais i ddod o hyd i waith gyda chwmni lleol ym Môn, yn ogystal â phrynu car i mi fy hun. Magais gymaint o hunanhyder ac ar ôl i fy lleoliad gwaith un wythnos ar bymtheg o hyd drwy Môn CF ddod i ben, cefais gontract gwaith parhaol gyda Seapig, sef y cwmni y trefnodd Môn CF imi gael profiad yno ar y dechrau!
Lizzie J | Ynys Môn