Cyfleoedd dysgu hyblyg a chynhwysol
Parhewch i ddysgu gydag ystod eang Prifysgol Bangor o gyrsiau byr. P’un a ydych am wella eich sgiliau proffesiynol, ailsgilio, neu ddysgu rhywbeth newydd, bydd cyrsiau byr fforddiadwy Prifysgol Bangor yn eich helpu ar eich taith. Mae arbenigwyr academaidd a gweithwyr proffesiynol yn y diwydiant yn cyflwyno ein cyrsiau byr arloesol a hyblyg, a hynny ar y campws ac ar-lein.
Os ydych chi’n ystyried camu i addysg uwch, boed hynny ar lefel israddedig neu ôl-raddedig, mae cwrs byr yn ffordd wych o gael blas ar yr hyn y gallwch ei ddisgwyl ym Mangor. Mae ein darpariaeth yn cynnwys cyfoeth o bynciau, wedi’u dylunio i gyd-fynd â’ch ymrwymiadau presennol.
Yn ogystal â hynny, mae’r Brifysgol yn cynnig ystod o raglenni Gradd-brentisiaeth Digidol a Pheirianneg sy’n cynnig llwybr gwahanol i addysg uwch draddodiadol. Maent yn cyfuno gwaith llawn amser gydag astudiaeth ran amser yn y brifysgol.
Os ydych chi’n fusnes sy’n awyddus i weithio gyda Phrifysgol Bangor i ddatblygu pobl, cynhyrchion a phrosesau, ewch i’r Hwb Cydweithredu.

Beth sydd ar gael
Cefnogaeth ar gyfer Unigolion
Cefnogaeth ar gyfer Busnesau
Cymorth yn y Gwaith
Cymorth i ddatblygu ac uwchsgilio unigolion sydd mewn gwaith
Hyfforddiant a chyrsiau byr
Addysg Uwch
Cyrsiau Is-raddedig / Ôl-radd
Gradd-brentisiaethau
Cefnogaeth ar gyfer Unigolion
Cefnogaeth ar gyfer Busnesau






Datblygwch eich gyrfa gyda chyrsiau byr a datblygiad proffesiynol parhaus Prifysgol Bangor