Cydweithio. Arloesi. Tyfu.
Ers iddi ddod yn brifysgol 15 mlynedd yn ôl, mae Prifysgol Wrecsam wedi ehangu ei chynigion ac wedi lansio strategaeth Campws 2025 gwerth £80 miliwn i wella cyfleusterau ac amgylcheddau dysgu, gan baratoi graddedigion ar gyfer llwyddiant. Gyda phobl a lle wrth wraidd ei Chenhadaeth Ddinesig, mae’r brifysgol yn dylanwadu’n gadarnhaol ar Ogledd Cymru, gan rymuso myfyrwyr a chyn-fyfyrwyr drwy gefnogaeth y Tîm Menter.
P’un a ydych yn dysgu rhywbeth newydd neu’n datblygu eich sgiliau presennol, bydd cyrsiau byr Prifysgol Wrecsam yn eich cynorthwyo i gymryd eich cam nesaf, gyda dosbarthiadau dydd a gyda’r nos ar gael.
Mae Prifysgol Wrecsam hefyd yn cefnogi busnesau drwy Bartneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth, gweithdai proffesiynol, prentisiaethau gradd, a hyfforddiant wedi’i deilwra. Maent yn darparu mynediad at gyllid, cymorth arloesi, lleoliadau myfyrwyr a graddedigion, a chymorth busnes addasedig, gan feithrin twf ac arloesedd drwy arbenigedd academaidd a phrosiectau ar y cyd.

Beth sydd ar gael
Cefnogaeth ar gyfer Unigolion
Cefnogaeth ar gyfer Busnesau
Cymorth yn y Gwaith
Cymorth i ddatblygu ac uwchsgilio unigolion sydd mewn gwaith
Hyfforddiant a Chyrsiau Byr
Prentisiaethau gradd
Darparwr Prentisiaethau Cymeradwy
Cefnogaeth ar gyfer Unigolion
Cefnogaeth ar gyfer Busnesau






Cydweithrediad gwych rhwng y tîm a’r gwaith. Maent yn gwrando ar bob syniad posibl y byddwch wedi eu trafod â hwy, yn eu nodi…ac yna’n eich helpu i geisio gwireddu’r syniadau hynny. Gwych! Diolch i chi’r Tîm Menter am eich cefnogaeth a’ch gwasanaeth.
Dr Phoebe Teh