Llesiant ar gyfer Gweithio
Mae RCS yn darparu cymorth, hyfforddiant a therapïau wedi’u teilwra i helpu unigolion a busnesau ledled Cymru i wella eu llesiant yn y gwaith. Rydym yn ymfalchïo mewn darparu gwasanaethau o ansawdd sy’n trawsnewid miloedd o fywydau bob blwyddyn.
Rydym yn arbenigo mewn dylunio a chyflawni portffolio cynhwysfawr o hyfforddiant llesiant a gyflwynir drwy gyfrwng y Gymraeg a Saesneg. Rydym yn cynnig ymgynghori, hyfforddiant a chefnogaeth i wella llesiant yn y gweithle, gan sicrhau bod busnesau yn parhau’n gynhyrchiol ac yn ffynnu.
Rydym yn darparu cyfuniad o sesiynau cyflogadwyedd a chymorth cwnsela, sy’n galluogi unigolion i ennill cyflogaeth gynaliadwy.
Efallai y bydd ffi i’w thalu am rai mathau o gymorth, yn ddibynnol ar feini prawf cymhwysedd.

Beth sydd ar gael
Cefnogaeth ar gyfer Unigolion
Cefnogaeth ar gyfer Busnesau
Cymorth i ddod o hyd i swydd
Ysgrifennu CV, ceisiadau, sgiliau cyfweliad, mentora etc.
Cymorth yn y Gwaith
Hyfforddiant a Chyrsiau Byr
Cymorth gydag Iechyd Meddwl a Llesiant
Cefnogaeth ar gyfer Unigolion
Cefnogaeth ar gyfer Busnesau






“Mae fy staff wedi bod mor hapus gyda’r ffordd y cawsant eu trin a daethant ataf yn bersonol i ddiolch i mi am eu rhoi ar y trywydd cywir. Roedd un o’n gweithwyr mewn lle tywyll iawn pan atgyfeiriodd ei hun i’r Gwasanaeth Cymorth yn y Gwaith ac mae’r sesiynau cwnsela a fynychodd wedi gwneud byd o wahaniaeth iddo.
Rob Lloyd | Rheolwr AD | TRB