Byddwch yn fos arnoch chi’ch hunan
Mae Syniadau Mawr Cymru yn cefnogi pobl ifanc rhwng 16-25 oed. Os ydych chi’n 25 oed neu’n ieuengach, ac yn wynebu rhwystrau sy’n eich atal chi rhag dechrau busnes neu chwilio am gyfleoedd neu os oes gennych chi syniad busnes gwych, yna gall Syniadau Mawr Cymru helpu.
Mae ein Cynghorwyr Busnes yn cynnig cymorth un i un, cymorth gyda chynllunio busnes, rhagweld llifoedd arian, marchnata a chymaint mwy. Cynigiwn ystod eang o weithdai i’ch cefnogi chi drwy eich taith fusnes; drwy ystod o raglenni mentora, gweithdai a phenwythnosau preswyl.

Beth sydd ar gael
Cefnogaeth ar gyfer Unigolion
Cefnogaeth i ddechrau busnes neu fynd yn hunangyflogedig
Cyngor a hyfforddiant busnes i bobl ifanc.
Penwythnosau bŵtcamp busnes preswyl.
Digwyddiadau, cyfleoedd rhwydweithio a hyfforddiant rhanbarthol ar draws amrywiaeth o bynciau
Cefnogaeth ar gyfer Unigolion





