Darparu dysgu sy’n newid bywydau ledled Cymru

Y Brifysgol Agored yw darparwr addysg uwch israddedig rhan-amser mwyaf Cymru. Mae’n arwain o ran darparu cyfleoedd dysgu o bell arloesol a hyblyg ar lefel addysg uwch, gan gynnwys cyrsiau israddedig, ôl-raddedig a chyrsiau mynediad.

Mae’r Brifysgol Agored yn gweithio gyda busnesau, elusennau a chyrff cyhoeddus yng Nghymru i’w helpu i ddatblygu eu staff, gan annog mwy o bobl i ddysgu gydol oes waeth beth fo’u cefndir. Rydym yn hyrwyddo cyfleoedd drwy ehangu mynediad at ddysgu o ansawdd uchel i bawb sy’n dymuno gwireddu eu huchelgeisiau – ac mae hyn yn cynnwys cefnogi sefydliadau i fynd i’r afael â’u hanghenion sgiliau trwy ddarparu atebion datblygu gweithlu eithriadol.

Mae’r Brifysgol Agored yng Nghymru yn cynnig rhaglenni gradd galwedigaethol mewn nyrsio a gofal cymdeithasol. Ers 2020, mae’r Brifysgol wedi hyfforddi athrawon ar y cwrs TAR dwyieithog, arloesol. Trwy ei phrentisiaeth gradd mewn Peirianneg Meddalwedd Cymhwysol, mae’r Brifysgol Agored hefyd yn helpu prentisiaid ledled Cymru i hyfforddi ar gyfer gyrfa mewn TG tra byddant yn ennill cyflog.​

Mae platfform dwyieithog OpenLearn Cymru ac OpenLearn Wales yn cynnig adnoddau dysgu cyfrwng Cymraeg a Saesneg am ddim er mwyn annog pobl i ddilyn cyrsiau addysg uwch.

Open University in Wales Graduate

Beth sydd ar gael

Hyfforddiant a chyrsiau byr

Addysg Uwch
Cyrsiau Is-raddedig / Ôl-radd

Prentisiaethau gradd
Darparwr Prentisiaethau Cymeradwy

Background Image

Eisiau dysgu mwy?

Cysylltu yn uniongyrchol
Background Image