Sector Cyhoeddus
Mae’r sector cyhoeddus yn ffynhonnell gyflogaeth fawr yng Ngogledd Cymru, gyda phobl yn gweithio mewn amrywiol wasanaethau cyhoeddus, fel addysg, gofal iechyd, gwasanaethau brys, a gofal cymdeithasol. Mae’r sector hwn ar wahân i’r sector preifat gan mai’r llywodraeth sy’n berchen arno ac yn ei ariannu, a’i bwrpas yw sicrhau bod gwasanaethau hanfodol yn cael eu darparu i’r cyhoedd.
Ymhlith y cyflogwyr mawr mae’r GIG, cynghorau lleol a gwahanol adrannau’r llywodraeth.
Pa un ai a oes gennych chi ddiddordeb mewn gwaith gweinyddol, swyddi arbenigol, neu swyddi proffesiynol, mae’r sector cyhoeddus yn cynnig cyfleoedd amrywiol gydag amodau gweithio da a chyflogau cystadleuol – mae yna gyfleoedd di-rif i wneud gwahaniaeth.
TWF
2019-2022
+4.6%
PROFFIL Y GWEITHLU
16-24 oed
10%
25-49 oed
50%
50+
40%
Galwedigaethau y mae galw amdanynt
Peirianyddion Sifil
£32,500
Swyddogion yr Amgylchedd
£23,100
Galwedigaethau sy’n ymwneud ag Iechyd a Gofal Cymdeithasol
£25,600
Syrfëwyr
£40,100

Dysgu mwy am y Sector Cyhoeddus
Swyddi yn y sector cyhoeddus
Dewch o hyd i gyfleoedd gyrfa cyffrous sydd wedi’u teilwra i’ch sgiliau a’ch diddordebau.
Dechrau busnes
Trowch eich syniadau yn fusnes gydag adnoddau a chefnogaeth arbenigol.